top of page
Ursula a’i Choeden Garedig
Does dim dwywaith bod paratoadau Nadolig yn cymryd lot fawr o amser. Meddwl am anrhegion, paratoi’r gacen, sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y dathliadau!
Draw yn Llandysul, mae ganddynt Sian Corn bach eu hunain, a’i henw ydi Ursula Coote. Eleni, mae ei phrosiect, Y Goeden Garedig, yn gobeithio lledaenu hwyl yr ŵyl i bawb yn ei chymuned.
“Y Goeden Garedig yw coeden Nadolig sydd wedi cael ei sefydlu mewn siop yn y pentref gyda nifer o dagiau yn hongian wrth y goeden”, meddai Ursula. “Ar y tagiau mae manylion arno ar gyfer pobol mewn angen neu lai ffodus sydd gyda ni yn y gymuned, drwy weithio gydag elusennau neu sefydliadau yn yr ardal leol. Mae pobol y gymuned wedyn yn gallu dewis tag, mynd ati i brynu'r anrheg sydd wedi nodi ar y tag ac wedyn dod 'nôl a'r anrheg i'r siop erbyn y dyddiad cau. Bydd yr anrheg yna wedyn yn cael ei dosbarthu i'r unigolyn yna amser Nadolig!”
“Dwi'n meddwl bod prosiect fel hyn yn bwysig oherwydd mae amser y Nadolig yn gallu bod yn straen i lawer o bobl ac mae nifer yn teimlo’r pwysau i wario ar anrhegion ond yn anffodus ni all pawb fforddio gwneud hynny yn rhwydd iawn felly o'n i eisiau creu rhywbeth i helpu lleddfu’r straen yna”, meddai. “Hefyd, mae llawer o bobol hÅ·n yn profi unigrwydd ac yn aml ddim yn derbyn anrheg gan neb amser y Nadolig ac, er mae pawb yn gwybod nid anrhegion yw popeth, mae cael rhywbeth bach gan rywun yn mynd i godi calon a rhoi gwên.”
Wedi gweld prosiect tebyg o’r blaen, penderfynodd Ursula mynd amdani i gyflwyno ei chymuned i’r syniad. “Yr ysbrydoliaeth i neud hwn oedd gweld fideo o fenter debyg yn cael ei wneud yn siopau adnabyddus dros y wlad. Pan weles i'r fideo o'n i'n meddwl i fy hunan pa mor wych oedd e ac wedyn daeth y syniad i fy mhen i. Oedd y syniad pallu gadael meddwl fi felly nes i gymryd hwnna fel arwydd bod angen i fi neud rhywbeth tebyg yn Llandysul! Yn wahanol i'r fenter gyda'r siopau mawr sy’n gwneud hyn yn barod, roeddwn i eisiau neud e yn fwy personol i'r person a rhoi'r cyfle i bobol mewn cymuned fach wledig fel Llandysul elwa o'r fenter.”
“Fi heb wneud prosiect fel hyn o'r blaen ar ben fy hunan ond wedi bod yn rhan o gwpwl o brosiectau arall sydd gyda'r un nod o helpu pobol arall. Mae fy swydd yn un sydd yn edrych ar ôl pobol a dwi'n berson sydd yn hoffi helpu eraill yn fawr iawn hefyd. Ond mae hwn yn rhywbeth hollol newydd i fi i wneud fel unigolyn. Dwi'n gobeithio dod a'r gymuned at ei gilydd i gymryd rhan yn y prosiect a dechrau traddodiad newydd yn Llandysul bob Nadolig i helpu eraill yn y gymuned a bydde'n elwa o'r fenter hon.”
Gyda sbel i fynd nes y Nadolig, mae prosiect Ursula wedi derbyn ymateb gwych hyd yn hyn. “Yn barod dwi wedi cael ymateb anhygoel a chefnogol iawn, sydd yn grêt, ac yn rhoi mwy o ffydd i fi bydd y prosiect yn llwyddiannus. Mae Llandysul yn barod yn gymuned gefnogol a chlos felly oedd hwnna yn gysur mawr i fi ac o'n i jyst yn gobeithio bydde pawb yn gallu gweld y rheswm pam dwi wedi dechrau 'Y Goeden Garedig' a chymryd rhan. Dwi wedi cael llawer o gefnogaeth yn barod a dwi mor ddiolchgar am hynny.”
​
Os wyt ti eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect, cer i ddilyn Y Goeden Garedig ar Instagram! @ygoedengaredig
bottom of page