top of page

Trends yr Hydref 2024

04.jpg

Wyt ti wedi bod yn meddwl am ffasiwn Hydref a Gaeaf 2024 eto? I ddweud y gwir, mae’n teimlo fel ein bod ni wedi mynd yn syth o ffasiwn y gwanwyn ac yn syth i siwmperi gaeafol, gyda fawr ddim o’r haul hafaidd yn dangos ei wyneb! Ond mae tymor meteorolegol yr hydref wedi’n cyrraedd ni, felly mae’n hen bryd cofleidio’r tymor clyd ac edrych ymlaen at y nosweithiau cysurus gyda siocled poeth a ffilm dda!

Does dim rhaid dilyn trends - ond maen nhw’n gallu bod yn bethau bach handi. Does dim rhaid mynd allan i brynu’r cynigion yn yr erthygl yma. Yn hytrach, cymrwch olwg yn eich wardrob a cheisia ddefnyddio hen ddillad mewn ffyrdd gwahanol. Sut? Wel, mwy am hynny yn y man ond am y tro, dyma syniadau o trends y tymor eleni.

 

Melyn
 
Maen nhw’n dweud fod yna arlliw o felyn i bawb. Dim pawb sy’n mynd i siwtio melyn llachar fel lemon, a fydd y rhai sydd yn siwtio’r arlliw yna ddim o reidrwydd yn siwtio melyn twym fel tiwmerig - mae pawb yn wahanol, a dylet ti wisgo’r lliwiau sydd yn gwneud i ti deimlo’n gyffyrddus. Eleni, bydd lliwiau melyn yn hawlio’r siopau stryd fawr mewn sawl wahanol eitemau, o fagiau i siwmperi.

Y Siôl

Hoff o flancedi a siacedi? Wel, eleni byddi di’n gweld y ddau yn cael ei werthu a’i wisgo! Siôl byddwn ni yng Nghymru yn eu galw nhw, ond mae’r trend traddodiadol yn dychwelyd mewn ffordd gyfoes. Lliwiau solet, plaen a modern - dyma ddarn sydd â photensial i addasu i sawl edrychiad gwahanol, boed o’n steiliau ffurfiol i’r gwaith neu’n wisg hamddenol i fynd am goffi efo’r gens!
 

01.jpg
02.jpg

Y Blazer 

Dyma Dyma trends sydd ddim yn mynd i nunlle - oes trend arall wedi para mor hir â’r blazer?! Os wyt ti’n meddwl mynd a dy blazer di i’r siop elusen, efallai ei fod yn syniad dal ar am ychydig... neu ei adnewyddu! Mae rhoi bywyd newydd i dy ddillad yn haws nag erioed. Os oes gen ti blazer sy’n ffitio’n neis ond rwyt ti wedi syrffedu’n llwyr ar y lliw, cer i chwilio am y lliwiau sy’n boblogaidd y tymor yma. Gweld rhywbeth ti ffansi? Gwych! Tafla’r siaced yn y golch gyda phowdwr lliw (ar ôl darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus dwywaith neu dair, gyda chaniatâd perchennog y peiriant!) a bydd gen ti eitem newydd sbon (bron) yn barod ar gyfer creu gwisgoedd lysh, a hynny heb orfod prynu dilledyn newydd!

Adnewyddu

Sôn am adnewyddu, mae yna trend eleni sy’n gallu cael ei efelychu adref gyda’r dillad sydd gen ti yn barod. Os edrychi di yn y siopa stryd fawr, mae’n bosib iawn y byddi di’n gweld mwy o ddillad gydag ambell i fanylyn diddorol - ychydig o ffrils, flwff a phlu. Mae’n swnio’n boncyrs, ond cer i weld beth sydd yn y siopau a meddylia sut fedri di ddefnyddio’r hyn sydd gen ti yn barod i roi cynnig ar y trend.
 

Mae yna trend arall sy’n bosib ei efelychu’n rhad, hefyd, sef jîns glas tywyll. Dyma gyfle gwych i ailddefnyddio jîns dwyt ti heb wisgo ers oes pys! Os nad oes gen ti bâr addas, mae digonedd ohonynt ar gael mewn siopau elusen, a’r unig beth arall rwyt ti angen ydi powdwr lliw i’w liwio’n lliw y tymor. Neu, tra rwyt ti wrthi’n greadigol, beth am baentio pâr o jîns, i’w gwneud nhw’n hydyn oed mwy unigryw? Neu defnyddio bandiau elastic er mwyn clymu’r jîns cyn ei liwio er mwyn creu pâr steil tie-dye? Wel, mae hynny’n syniad... Reit, amdani i’r siop elusen. Oes gan rywun lond llaw o fandiau elastic allwn ni fenthyg, plîs?!
 

03.jpg
bottom of page