top of page

Syniadau Santes Dwynwen

Ynys Llanddwyn.jpg

Daw'r diwrnod i ddathlu cariad y Cymry! Mae dangos dy werthfawrogiad tuag at y bobl rwyt ti’n ei garu yn holl bwysig. Y bobl sy’n dy godi pan wyt ti’n disgyn, y bobl sydd yno i ti ar fyr rybudd.

Mae Diwrnod Santes Dwynwen ar ddiwedd mis sy’n dynn o ran arian. Ar ôl gwario ar yr holl anrhegion Nadolig a’r bwyd er mwyn gwledda, mae payday mis Ionawr wastad yn un i edrych ymlaen tuag ati. Erbyn cyrraedd dydd nawddsant cariadon Cymru, does fawr ddim arian i’w daflu ar hyd yn oed mwy o anrhegion.

Y newyddion da ydi does dim rhaid gwario’n wirion er mwyn dangos dy werthfawrogiad. I ddweud y gwir, mae anrhegion wedi eu gwneud â llaw yn llawer mwy gwerthfawr! Gydag ychydig llai ‘na phythefnos nes y diwrnod pwysig, mae’n amser chwilota am y syniadau perffaith ar gyfer y rhai rwyt ti’n caru. Methu meddwl? Paid â phoeni! Mae Lysh wedi rhoi bwrdd ysbrydoliaeth at ei gilydd i dy roi ar ben ffordd. Isod, weli di lond lle o syniadau. Mae rhywbeth yn siŵr o danio’r dychymyg!

 

Hawlfraint y ddelwedd: © David Angel, 2013

Ocê, dwi’n gwybod mai diwrnod nawddsant cariadon Cymru ydi diwrnod Santes Dwynwen, ond mae’n rhaid dangos ychydig o gariad i ti dy hun hefyd, does? Dyma’r esgus perffaith ar gyfer cymryd amser i wneud yr hyn rwyt ti eisiau gwneud, boed hynny’n golygu mynd am dro sydyn neu setlo gyda llyfr am noson gyfan. Styc am syniadau? Mae Lysh yma i helpu unwaith eto! Cymera olwg isod:
 

Pinterest 2.png
bottom of page