top of page

Cymry, Balch Ifanc:

 Siwrnai Aeron at falchder

Cymry Balch Ifanc (1).jpg

Gan: Llinos Dafydd

Fel rhiant, mae gwylio'ch plentyn yn dod o hyd i'w le yn y byd yn gallu bod yn heriol ac yn ysbrydoledig yr un pryd. Mae cyfraniad fy mhlentyn 17 oed, Aeron, at y gyfrol newydd sbon gan Wasg Rily, Cymry Balch Ifanc, yn teimlo fel eiliad ddiffiniol - un sy’n rhoi eu stori nhw, a straeon 12 o bobl ifanc LHDTCRA+ eraill, dan y chwyddwydr.

​
Nid casgliad o straeon yn unig mo’r gyfrol ddwyieithog hon, sy’n rhan o brosiect Rhyngom, a ariennir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae’n ddathliad o falchder, gwytnwch a hunaniaeth – gan gynnig cipolwg ar sut beth yw tyfu i fyny LHDTCRA+ yng Nghymru heddiw.

Fe es i ati i holi Aeron ymhellach am eu siwrnai.

 
Stori Aeron: Hawlio eu hunaniaeth
 
"Dwi’n teimlo fy mod i wir wedi cael y cyfle i hawlio fy stori nawr," meddai Aeron wrtha i am eu cyfraniad i’r gyfrol. “Dwi wedi treulio lot o amser yn teimlo bo fi ddim yn ffitio yn y byd, i gymdeithas, ac roedd cyfrannu at y gyfrol yn teimlo fel ffordd i ddweud o'r diwedd, 'Dyma pwy ydw i, dim cuddio, dim cywilyddio.'"

 

Mae Aeron, sy’n uniaethu fel anneuaidd, wedi wynebu brwydrau arferol pobl ifanc yn eu harddegau, wedi’u dwysáu gan ddealltwriaeth gyfyngedig cymdeithas o hunaniaeth rhywedd. Mae eu pennod yn Cymry Balch Ifanc yn rhoi cipolwg ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau hunanddarganfyddiad a hunan-dderbyniad.
​
"Wrth dyfu lan, sai’n cofio gweld enghreifftiau o bobl anneuaidd o ‘nghwmpas i. Do’n i ddim yn gweld pobl fel fi yn y cyfryngau nac yn fy nghymuned, felly cymerodd e amser i fi ddarganfod pethau ar ben fy hunan. Mae’n bwysig i fi i adael i arddegwyr eraill wybod bo nhw ddim ar eu pennau eu hunain."

Torri'r tawelwch

Yr hyn sy’n drawiadol am stori Aeron - a’r gyfrol gyfan - yw sut mae’r lleisiau ifanc hyn yn torri’r distawrwydd ynghylch materion LHDTCRA+ yng Nghymru. Mae eu straeon yn sôn am frwydr, ond yn fwy na hynny, maen nhw'n siarad am fuddugoliaeth.

"Roedd yna adegau pan o’n i'n teimlo'n anweledig,"
mae Aeron yn cyfaddef. "Ond sai’n anweledig, bellach. Mae fy stori allan yna, ac mae hynny'n bwerus."
 

Aeron a Llinos.jpg
Friends in Nature

Nid yw’r gyfrol yn ymwneud â theithiau unigol yn unig; mae'n ymwneud â chreu gofod ar gyfer dealltwriaeth a chysylltiad. Mae Aeron yn gobeithio y bydd eu stori yn cyrraedd pobl ifanc LHDTCRA+ eraill sy'n teimlo'n ynysig.

"Mae'n anodd tyfu lan yn teimlo fel nad wyt ti’n ffitio i mewn. Ond mae yna lot ohonon ni o gwmpas, go iawn, ac ry’n ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd."


Goresgyn heriau, gyda'n gilydd

Fel mam i Aeron, rydw i wedi eu gwylio nhw’n llywio’r heriau sy’n dod gyda bod yn anneuaidd mewn byd sy’n ceisio dal i fyny. O sgyrsiau lletchwith i gamddealltwriaeth llwyr, nid yw bob amser wedi bod yn hawdd. Ond mae Aeron bob amser wedi wynebu'r heriau hyn gyda breichiau agored.

“Mae ffordd bell i fynd eto o ran derbyn,” meddai Aeron. "Ond mae codi llais yn gam i'r cyfeiriad cywir. Mae'n ymwneud â gwelededd a dweud, ‘Ry’n ni’n bodoli, ac yn bwysicach fyth, ry’n ni’n falch o bwy ydym ni.'"
 

Neges ar gyfer pobl ifanc LHDTCRA+

I ddarllenwyr ifanc, mae cyngor Aeron yn glir:

"Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthoch chi pwy ydych chi. Diffiniwch eich hunan. Dyw e ddim yn mynd i fod yn hawdd bob amser, ond mae yna gymuned allan yna a fydd yn eich caru ac yn eich cefnogi, yn union fel ydych chi."

Dyma gyfrol sy’n brawf bod gan bobl ifanc LHDTCRA+ lais yng Nghymru, a bod eu straeon yn haeddu cael eu hadrodd.

 
Mae Cymry Balch Ifanc yn torri tir newydd oherwydd ei fod yn chwyddo lleisiau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Gyda LlÅ·r Titus a Megan Angharad Hunter wrth y llyw golygyddol, a Mari Philips yn ychwanegu ei dawn gyda’i darluniau bendigedig, mae’r gyfrol hon yn un y mae’n rhaid ei darllen, er mwyn deall beth mae’n ei olygu i fod yn ifanc, LHDTCRA+, a balch yng Nghymru.
 
Aeron sy'n ei grynhoi orau:"Dyw'r llyfr hwn ddim ar gyfer pobl LHDTCRA+ yn unig - mae ar gyfer pawb. Mae'n ymwneud â dysgu, deall a dod o hyd i dir cyffredin. Ry’n ni i gyd yn haeddu cael ein gweld, ac mae'r gyfrol hon yn gwneud hynny'n bosib."
 

Rainbow Flags
bottom of page