top of page

Amynedd, Profiad a Lwc - Siopa Ail-law

Sweaters on a Rack

Wyt ti erioed wedi ceisio siopa am ddillad ail-law, ond methu dod o hyd i ddim sy’n dy siwtio? Mae siopa ail-law yn sgil, ac mae rhai pobl yn gallu osgoi ffasiwn gyflym yn gyfan gwbl drwy droedio siopa elusen a scrollio ar aps ail-law. Ond sut maen nhw’n gwneud hynny? Wel, amynedd, profiad a lwc... Dyma lond llaw o tips i dy helpu!

Safon, safon, safon

Er bod prisiau siopau ail-law yn gallu bod yn isel, rwyt ti dal angen gwerth am arian! Paid â thaflu dy arian ar ddillad os wyt ti’n gwybod nad ydi’r safon yn wych. Hynny yw, mae yna ambell i frand (fel yr un enwog hynod, hyyyyynod rhad... ti’n gwybod yr un!) sydd yn adnabyddus iawn am safon salw.
 

Darnau Amlbwrpas

Da ni gyd wedi bod yna, mynd yn wyllt mewn siop ddillad ail-law a phrynu eitemau y byddwn ni byth bythoedd yn ei brynu fel arfer, ond mae’n iawn achos roedd o’n fargen! Ond, hel llwch mae’r eitem yn y pen draw ac efallai diweddu’n ôl yn yr un siop.

Ceisia edrych am eitemau rwyt ti’n gwybod y byddi di’n gwisgo gydag amryw o wisgoedd. Os wyt ti’n siopa ar ap ail-law, mae’n syniad “hoffi” eitemau sy’n dy siwtio di fel bod gan yr ap gwell syniad o beth i awgrymu i ti.

Edrycha am faults

Cyn mynd i brynu eitem, cymer olwg os oes nam ar yr eitem - botwm ar holl, zip wedi torri neu dwll mewn lle anffodus! Mae’n bosib trwsio dilledyn o dro i dro, ond mae’n bwysig dy fod yn gwybod am nam cyn prynu, fel dy fod yn gallu penderfynu os ydi’r difrod yn ormod i ti drwsio dy hun. Does dim byd gwaeth ‘na chyrraedd adra a chael dy siomi!
​
​Mae dod o hyd i nam ar ddillad rwyt ti’n prynu ar ap ail-law gallu bod ychydig bach mwy heriol. Cofia, edrycha ar y lluniau yn ofalus a zoomio mewn a darllena’r disgrifiad, heb anghofio darllen adolygiadau’r gwerthwr.
 

Second Hand Clothing
Folded Clothes

Amynedd!

Mae’r profiad o siopa yn ail-law yn brofiad hollol wahanol i siopa ffasiwn gyflym. Does fawr o bwynt mynd i siopa mewn siop elusen yn edrych am wisg munud olaf ar gyfer digwyddiad, achos mae’n bosib y byddi di’n cael dy siomi! Does dim dal ar yr hyn fyddi di’n darganfod mewn siop ail-law, felly mae’n rhaid i ti gofio bod angen amynedd... lot ohono fo!

Mwy ‘na Dillad

Mewn ambell i siop ail-law, tu hwnt i’r holl ddillad ac ategolion, efallai gweli di ddetholiad o eitemau i’r tÅ·, addurniadau, bob mathau o bethau. Os byddi di’n cychwyn reit handi, efallai byddi di’n gallu gwneud dy siopa Nadolig i gyd mewn siopa ail-law. Amdani!
 

bottom of page