top of page
SÊL SÂL?
Wyt ti wedi cerdded i lawr y stryd fawr yn ddiweddar? Wyt ti wedi troi’r teledu ymlaen neu wrando ar y radio? Dim ots lle rwyt ti’n edrych, mae pob manwerthwr yn dy hysbysu di am sêl, bargen y degawd, y pris gorau erioed! Black Friday, Cyber Monday, cymaint o brisiau anhygoel, mae’n rhaid i ti fanteisio ar y cyfle nawr i arbed arian – Oes?
Wel, wyt ti’n barod am ffaith ddiddorol?
Dim ond un o bob saith “bargen” Black Friday sy’n cynnig disgownt go iawn.
Y dilyn arolwg gan wefan Which?, daeth i’r amlwg fod sawl manwerthwr mawr yn codi eu prisiau cyn cyfnod y sêls er mwyn eu gostwng i’r pris arferol yn ystod diwrnod Black Friday.
Gyda’r wybodaeth yma wrth law, anodd iawn yw ymddiried yn y cwmnïau mawr sy’n gaddo’r byd a bargeinion i ni gyd. Mae bargeinion ar gael, ond mae dod o hyd iddynt yn her. Felly, dewch i ni drafod ychydig mwy am Black Friday.
Pryd mae Black Friday?
Ganed Black Friday yn America ac mae’n digwydd y diwrnod ar ôl Thanksgiving ac mae Black Friday yn ddigwyddiad sydd wedi cael ei gynhyrchu gan fanwerthwyr. Bob blwyddyn, bydd fideos yn ymddangos ar-lein gyda thyrfâu o bobl yn disgwyl i siopau agor, yn heidio i mewn trwy’r drysau agor ac yn brwydro (yn llythrennol) am gynnyrch am bris isel.
Er nad ydyn ni’n dathlu’r diwrnod Thanksgiving yma yng Nghymru, mae manwerthwyr byd-eang wedi cyflwyno Black Friday i ni er mwyn ceisio gwneud elw.
Dim ond un diwrnod oedd Black Friday yn wreiddiol, ond nawr mae siopau’r stryd fawr yn cychwyn cynnig bargeinion wythnosau o flaen llaw! Wedi Black Friday, daw Cyber Monday. Fydd hyn ddim syndod i neb, ond mae’r ddau ddiwrnod yr un peth. Yr unig wahaniaeth ydi fod y bargeinion yma ar gael ar-lein.
Sut ydw i’n gwybod os ydy bargen yn go iawn?
Dyma’r darn anodd. Gan wybod fod gymaint o dwyll cyfreithlon yn digwydd, sut fedri di fod yn siŵr dy fod yn cael pris teg ac onest?
Y peth gyntaf i gysidro ydi, wyt ti wir angen yr eitem? Hynny yw, o ti’n bwriadu prynu pâr o drainers beth bynnag, neu wyt ti eisiau’r trainers am eu bod nhw ar sêl a’r hysbysebion yn dy hudo? Mae bargen ‘mond yn fargen os wyt ti’n prynu’r hyn sydd wir angen arnat ti – nid prynu mae manwerthwr mawr eisiau i ti ei brynu!
Mae’r cyfnod yma hefyd yn amser da i brynu anrhegion ar gyfer teulu a ffrindiau. Mae’n gwneud synnwyr i fanteisio ar y cyfle! Ond, paid â mynd yn rhy wyllt - wedi’r cwbl, dyma yw bwriad y manwerthwyr! Cyn mynd allan i siopa ar y stryd fawr neu cyn agor y laptop i siopa ar-lein, ysgrifenna restr fer o syniadau am beth i brynu fel anrhegion. Gyda’r rhestr, y gobaith ydi y byddi’n yn cadw at yr hyn rwyt ti angen ei brynu, heb i fwystfil marchnata cwmnïau enfawr ddylanwadu arnat, a dweud wrtha ti i brynu pethau gwirion!
Ffordd arall o ddarganfod bargen go iawn ydi defnyddio gwefan sy’n dilyn pris eitemau. Mae’r adnoddau yma yn gallu dweud pryd buodd cynnyrch yn rhatach yn y gorffennol a hyd yn oed ble i ddod o hyd i gynnyrch am bris gwell.
Ffordd hyd yn oed yn well o osgoi bargeinion ffug yw i siopa yn lleol! Wrth siopa gyda busnesau bach yn lleol, fedri di ymddiried yn yr hyn sy’n cael ei gynnig a hyd yn oed cwrdd â pherchnogion busnes a’r rhai sy’n creu'r cynnyrch. Nid yn unig hynny, ond mae nwyddau gan gwmnïau annibynnol a chwmnïau sy’n creu eu cynnyrch â llaw yn cael eu trysori’n fwy ‘na deunydd sy’n cael ei fasgynhyrchu!
Wrth ystyried yr awgrymiadau uchod, mi fyddi di’n siŵr o gadw costau i lawr ac osgoi twyll yn ystod wythnosau'r sêls!
bottom of page