top of page
SECS
gan Ffraid Gwenllian
Haia gorjysys! <3 Ffraid dw i a fi ‘di sefydlydd SECS, platfform addysg rhyw newydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i ‘di bod isho cychwyn y cyfrif ers literally BLYNYDDOEDD, ond ces i gyfle o’r diwedd i’w wneud o eleni yn ystod blwyddyn olaf fy ngradd meddygaeth. Bwriad y platfform ydi rhannu cynnwys iechyd rhyw ac addysg rhyw mewn ffordd sy’n eitha ysgafn, hwyl a llafar ond sydd hefyd, gobeithio, yn addysgiadol ac yn helpu pobl.
Dwi wastad wedi meddwl ei bod hi’n ofnadwy o bwysig bod gan blant a phobl ifanc fynediad at wybodaeth gywir mewn perthynas ag addysg rhyw achos, let’s face it, mae ‘na lot o wybodaeth amheus allan yna ac yn aml iawn mae’n anodd deud y gwahaniaeth rhwng be’ sy’n wir a be’ sy’n gelwydd noeth. Yn sicr, mae na gyfrifoldeb ar rieni a gofalwyr i wneud hyn – ac mi o’n i’n ddigon lwcus i allu dweud unrhyw beth wrth Mam a Dad (er bo’ nhw ddim angen nac isho clywed rhai pethe!). Ond fel ’dan ni’n gwbod, dydi pawb ddim yn cael hynny adre, sy’n golygu bod ‘na lot o bwysau ar ysgolion, ac athrawon sy’n aml ddim yn arbenigo yn y maes, i wneud y cyfan. I ddweud y gwir, mae gwersi’n gallu cael eu cyflwyno mewn ffordd ychydig bach yn ffurfiol mewn ysgolion weithia’, felly mi o’n i’n meddwl y bysa fo’n syniad da trio cyflwyno’r pwnc mewn ffordd blaen ac agored dros y cyfryngau cymdeithasol.
Dw i’n rili awyddus i greu ardal diogel, safe space, lle mae pobl yn teimlo’n ddigon saff i ofyn cwestiynau a thrafod gwahanol bethe yn ymwneud â secs heb unrhyw gywilydd a heb boeni bod na bobl yn eu beirniadu nhw. Mae gan bawb, yn cynnwys fi, lot i’w ddysgu, a’r cyfan ydi SECS ydi gofod i gael y sgyrsia’ na a hwyluso dysgu. Hyd yn hyn, dwi wedi cyffwrdd â phethe fel cydsyniad, rhywioldebau a dulliau atal cenhedlu, ond fel ’dan ni’n gwbod mae addysg rhyw yn cwmpasu GYMAINT o elfennau gwahanol, felly pwy a ŵyr be’ fyddwn ni’n ei drafod mis nesa!
‘Dan ni’n byw yng nghanol oes Me Too a ‘dan ni’n lot mwy ymwybodol am bethe fel cydsyniad, date rape a revenge porn, ond eto ‘dan ni hefyd yn byw mewn oes lle mae pethe fel incel culture a throseddau casineb yn erbyn y gymuned LHDTC+ ar gynnydd. Drwy greu’r platfform yma, mi o’n i isho lledaenu’r neges bod o’n iawn i fod yn wahanol i’r bobl rwyt ti yn yr ysgol neu yn y coleg efo nhw. Mae dy fybl di mor, mor fach ar hyn o bryd ac mae dy orwelion chi am ehangu gymaint – mae dy gylch ffrindiau di am ehangu gymaint.
Dwi’n gwybod pa mor anodd mae’r ysgol a’r coleg yn gallu bod, ond plis paid â gwneud dy hun yn llai er mwyn gwneud dy hun yn fwy dymunol i bobl eraill. Yr hyn sy’n dy wneud di’n wahanol ydi’r hyn sy’n gwneud i ti sefyll allan, yn dy wneud di’n gorjys, yn gwneud i ti ddisgleirio. Dathla’r hyn sy’n dy wneud di’n ti a bydda’n glên efo pobl eraill achos dwyt ti byth yn gwybod be’ maen nhw’n mynd drwyddo fo.
Dilyna SECS rwan ar Instagram, Facebook ac X!
bottom of page