top of page
RHESTR CHWARAE
Nadolig 2023!
Mae yna rywbeth arbennig am ganeuon Nadolig sy’n creu cyffro hudol. Y clychau, ambell i drwmped ac alawon sy’n para degawdau.
Anodd iawn yw ceisio peidio â chwarae’r caneuon Nadolig yn rhy gynnar, ond diolch byth, mae mis Rhagfyr wedi ein cyrraedd! Felly, ar ôl disgwyl am 11 mis cyfan, mae’n amser troi’r speakers fyny a joio!
Isod, wele restr chwarae o oreuon yr ŵyl, wedi ei greu yn arbennig i ddarllenwyr Lysh. Dros ddwy awr a hanner o hwyl yr ŵyl i diddanu pawb o dan olau cain y fairy lights!
Methu gweld dy ffefryn? Ychwanega fo! Mae’r rhestr chwarae yma yn agored felly fedri di roi dy awgrym di i mewn i rannu gyda dy gyd-ddarllenwyr.
bottom of page