top of page

Pris Hwyl

01.jpg

Pam mae popeth mor ddrud y dyddiau yma? Mae gwneud unrhyw beth yn amhosib! Mynd am goffi gyda ffrindiau? £5. Mynd i’r sinema? £15, os nad mwy! Mae hyd yn oed tocyn trên i’r dref yn galed ar y waled. Hynny ydi, os fydd y trên yn troi fyny o gwbl! Weithiau mae’n rhatach dal yr awyren i wlad dramor i ddal fyny gyda ffrindiau!

Y gwir amdani ydi fod cynnydd mewn costau byw a chyflogau sydd ddim yn dilyn chwyddiant wedi rhoi pwysau ar incwm gwario. Nid arian i wario ar bethau er mwyn goroesi – fel bwyd a chynnyrch iechyd, ond arian i’w wario ar weithgareddau cymdeithasol – a phethau nad ydyn nhw’n ‘hanfodol’.

Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig ydi cymdeithasu er lles ein hiechyd meddwl, yn arbennig mewn byd sy’n llawn llymder ar y funud. Mae pobl yn cymdeithasu llai nag erioed, ac mae hynny’n gallu arwain at deimlo’n unig. Ond, mae gwneud unrhyw beth gyda’ch ffrindiau yn mynd y gostio. Felly, ar adeg pan mae prisiau yn wirion o uchel a hufen iâ traddodiadol “99” yn costio tua £2.50, sut mae mynd ati i dreulio amser gyda ffrindiau heb orfod gwario’n wallgo’?

 

Thermos!

Mae pris paned yn amrywio ar hyd y wlad ac fel arfer yn ddrutach mewn dinasoedd, ond mae un peth yn wir - mae gwneud paned adref lot rhatach! Buddsodda mewn thermos a’i lenwi gyda dy hoff ddiod gynnes (neu oer, fyny i ti!) a chwrdd â dy ffrindiau mewn parc, ar lan y môr neu unrhyw le ‘dach chi’n dymuno. Does dim llawer gwell ‘na rhoi’r byd yn ei le dros baned!

Picnic, a phawb i ddod â rhywbeth

Os nad ydi mynd allan am ginio efo’r gens yn bosib, beth am drefnu eich bod chi gyd yn cwrdd mewn parc neu ardd er mwyn sgwrsio dros ginio? Penderfynwch ar bris sy’n gyffyrddus i bawb, £5 efallai. Yna gall bawb ddod â bwyd i’w rannu heb wario mwy na’r uchafswm yna. Tipyn o sialens i ddod o hyd i fwyd, ac efallai dipyn o sbort gweld beth mae pawb wedi dewis!

 

Celf gyda chwmni

Oes yna oriel neu amgueddfa yn dy ardal di? O Oriel Môn a Storiel yn y gogledd i’r Amgueddfa Genedlaethol a Sain Ffagan yn y de, mae cymaint i’w weld ac i’w wneud am ddim. Does dim rhaid i ti fod efo diddordeb mewn hanes na chelf er mwyn mwynhau, dim ond mwynhau yng nghwmni dy ffrindiau. Mae bob dim yn well gyda ffrindiau, dydi?!

Oes gen ti syniadau gwahanol am weithgareddau cymdeithasol i’w wneud heb fynd i wario gormod? Rho wybod i ni!

​

bottom of page