top of page
1. Megan Angharad Hunter
Welest ti ar ein Stories ar Instagram ein bod wedi bod yn holi am gwestiynau?
Wel, dyma pam! Mae eich cwestiynau chi wedi cael eu rhoi i’r gwesteion! Cafwyd sawl cwestiwn heriol, yn arbennig y cwestiwn sy’n holi Megan Hunter am ei hoff lyfr! Felly, os wyt ti am ddarganfod yr ateb a chlywed am hanes Megan ar ei theithiau dramor gyda’i gyrfa lenyddol, cer i wrando nawr!
Bydd Lysh - 01. Megan Angharad HunterLysh Cymru
00:00 / 20:01
2. Buddug Roberts
Pan wyt ti’n meddwl am fardd, beth sy’n dod i dy feddwl di? Llyfrau llychlyd, cael dy orfodi i adrodd llu o farddoniaeth ar gyfer arholiadau? Dynion gwallt gwyn sy’n troedio cefn gwlad gyda golwg feddylgar ar eu hwynebau?
Dyna’r ddelwedd sy’n gyfarwydd i nifer ohonon ni. Wel, dim mwyach!
Dewch i ni chwalu’r ddelwedd yna gan groesawu’r bardd gwallt pinc, Buddug Roberts i bodlediad Bydd Lysh! Eisiau cyngor ar sut i fynd ati i ysgrifennu cerdd? Gwranda ar yr ail rifyn nawr!
Bydd Lysh - 02. Buddug RobertsLysh Cymru
00:00 / 20:27
3. Leo Drayton
Sut brofiad ydi eistedd mewn ystafell gyda grŵp o awduron a beirdd profiadol ar gychwyn dy yrfa greadigol? Ai dawn ydi ysgrifennu’n greadigol, neu sgìl sydd rhaid i ti weithio arni? Cwestiynau difyr ac anodd i ni ateb! Lwcus felly mai Leo Drayton yw’r gwestai nesaf ar ein podlediad Bydd Lysh! Yn ogystal ag ateb eich cwestiynau chi, mae Leo yn egluro mwy am ei brosiect diweddaraf, sef y ddrama “Dy Enw Marw”.
Bydd Lysh - 03. Leo DraytonLysh Cymru
00:00 / 20:04
4. Emily Pemberton
Sut brofiad yw cyflwyno rhaglen ddogfen sy’n adrodd hanes mor bersonol?
Newydd ei phenodi fel un o Ymddiriedolwyr Ifanc yr Urdd, mae Emily wedi bod yn ateb eich cwestiynau chi ar rifyn diweddaraf Bydd Lysh. Tybed, oes gan Emily fwy o raglenni dogfen ar y gweill?
Bydd Lysh - 04- Emily PembertonLysh Cymru
00:00 / 20:12
5. Glesni Prytherch
Mae Glesni Prytherch yn ôl i ateb eich cwestiynau chi!
Wedi rhannu gair o gyngor gyda chi’r darllenwyr yn y gorffennol, mae hi’n ôl i gynnig mwy o eiriau o gysur mewn byd sydd yn brysur newid. Wyt ti’n mynd i’r brifysgol eleni, neu’n meddwl mynd yn y dyfodol? Mae gan Glesni tips ar sut i ddelio gyda newid bywyd mawr.
Bydd Lysh - 05. Glesni PrytherchLysh Cymru
00:00 / 20:55
6. Lleucu Non
Pam fod pobl yn colli’r iaith Gymraeg? Pwy sy’n diffinio’r gair ‘cŵl’?
Ar rifyn olaf y gyfres gyntaf o Bydd Lysh mae Lleucu Non yn ceisio ateb y cwestiynau yma ac yn mynegi ei barn hi ar y nôd o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd Lysh - 06. Lleucu NonLysh Cymru
00:00 / 20:08
bottom of page