top of page
Pigion Llyfrau Haf 2024
Wel, yn gyntaf, mae’n rhaid i mi ymddiheuro am yr erthygl cwpwl o wythnosau yn ôl oedd yn sôn am edrych ar ôl ein croen yn yr haul yn ystod yr haf. Mae’n debyg ers cyhoeddwyd yr erthygl yna, bod yr haul wedi diflannu, a phwy a ŵyr pryd y bydd yn dychwelyd! Ta waeth, wnawn ni ddim cwyno gormod am y tywydd, achos mae’r hwyad a’r coed wrth eu boddau, ac mae’n rhaid edrych ar yr ochr bositif bob tro, does?
Gyda phawb yn meddwl am saib yr haf, yn trefnu gwyliau neu ddiwrnodau allan gyda ffrindiau, mae’r glaw darogan yn bygwth rhoi stop ar unrhyw fath o hwyl - felly tyrd i ni feddwl am weithgaredd nad oes modd i’r tywydd amharu arno, a dianc i fyd dychmygol y llyfrau.
Oes gen ti restr faith o lyfrau eisiau eu darllen? Wel, dyma’r amser i’w harchebu o’r llyfrgell neu i fynd lawr am sbec i dy siop lyfrau lleol. Efallai dy fod yn un o’r bobl hynny sy’n anghofio gymaint maen nhw’n caru darllen tan iddyn nhw agor llyfr ac, erbyn gweld, yn methu rhoi’r gyfrol i lawr! Neu, efallai, dwyt ti ddim yn siŵr pa lyfrau sydd ar gael ac angen ychydig o ysbrydoliaeth. Wel, darllena ymlaen, dyma bigion llyfrau Lysh ar gyfer tymor yr haf 2024!
Y Cylch
gan Gareth Evans-Jones
Wyddost ti fod gwrachod yn byw ym mhob cwr o Gymru? Mae’r gyfrol yma yn dilyn cylch o wrachod sy’n cerdded ymhlith trigolion Bangor ac yn ceisio datrys dirgelwch. Yn ein cymdeithas heddiw, mae gan y syniad o wrach stigma dychrynllyd a dyma’n union mae’r nofel yma yn ei daclo, gyda hiwmor, swyn a dirgel.
Ers cyhoeddi ei lyfr cyntaf, sef Eira Llwyd yn 2018, mae Gareth Evans-Jones o Ynys Môn wedi mynd ati i ysgrifennu sawl nofel a sefydlu clwb darllen Llyfrau Lliwgar, sydd yn cwrdd ym Mangor ac yng Nghaerdydd. Yn ôl bob sôn, mae Gareth yn edrych ymlaen at gyhoeddi cyfrol o gerddi yn fuan iawn - llyfr arall i ychwanegu i’r rhestr!
Rhyngom
gan Sioned Erin Hughes
Ffansi stori, ond rhy brysur am nofel? Dyma gyfrol o straeon byrion i dy diddanu gan lodes Lysh.
Byddi di’n gyfarwydd gydag Erin, wedi sawl buddugoliaeth mewn cystadlaethau llenyddiaeth Eisteddfodau a’i chyfweliad gyda Lysh sbel yn ôl. Yn 2022, enillodd Erin a’i chyfrol ‘Rhyngom’ y Fedal Ryddiaith. Dyma gasgliad o wyth stori fer sy’n trafod perthnasau gwahanol, o stori perthynas rhamantus â chyfrinachau yn amgylchynu’r pâr, i stori sy’n trafod her un fam gyda salwch terfynol.
Cyn mynd ati i ddarllen, mae’n bwysig cofio fod themâu dwys yn cael eu trafod - salwch a thrais, er enghraifft. Cynnig persbectif mae’r straeon, mewn gwirionedd, yn gosod stori o’n blaenau cyn mynd ati i edrych arni o ongl wahanol.
Cariad Yw
gan Casi Wyn
Oes gen ti hyd yn oed llai o amser i eistedd i lawr gyda phaned a llyfr ymysg yr holl drefniadau haf eleni? Beth am gyfrol o gerddi i ddarllen un ar y tro? Mae’r casgliad hwn yn boeth iawn o’r wasg - wedi’i gyhoeddi wythnos ddiwethaf, ac yn aros yn eiddgar i ti ei ddarllen!
Er iddi gyfrannu at sawl darn o waith dros y blynyddoedd ac yn Fardd Plant Cymru rhwng 2021 a 2023, dyma gyfrol unigol cyntaf i’r bardd a’r cyfansoddwr Casi Wyn. Mae’r llyfr ar gael yn dy siop lyfrau lleol, yn cynnwys cerddi cymysg yn steil nodweddiadol y bardd sydd, yn ôl y cyhoeddwr, Barddas, “wedi eu hysgrifennu ag ymdeimlad cryf o ddynoliaeth”.
bottom of page