top of page
Pigion Eisteddfod Genedlaethol 2024!
Delwedd: @eisteddfod ar Instagram
Mae yna dri phrif math o Eisteddfodwr yn y Genedlaethol;
1. Y rhai sy’n mynd amdani go iawn ac yn hawlio tocyn wythnos - os am Eisteddfota, rhaid gwneud pethau’n iawn, does?!
2. Y rhai sy’n mynd ar y penwythnos olaf yn unig, boed hynny er mwyn joio Llwyfan y Maes neu i fentro i Faes B - dyma pryd mae’r ŵyl ar ei gorau!
3. Y rhai sy’n sefyll yn stond yng nghanol y llwybr er mwyn dal fyny efo hen ffrind dydyn nhw heb weld ers yr ŵyl llynedd, yn gorfodi i bawb o bob cyfeiriad i fynd o’u cwmpas ac yn creu traffig jam - mae’r bobl yma yn bob MAN, felly byddwch yn wyliadwrus.
Mae mynd ati i drefnu dy amserlen ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn her, ond paid â phoeni, achos mae Lysh wedi gwneud y gwaith caled i gyd i ti! Isod, weli di ein pigion ar gyfer yr ŵyl. Safia’r delweddau yn dy ffôn fel nad wyt ti’n methu dim, a chofia gadw llygaid ar ein Instagram Stories ble byddwn yn rhannu rhagor o ddigwyddiadau diddorol.
bottom of page