top of page
Pennod Newydd
Mis Medi – cyfle i ddechrau ar lechen lân. Ble bynnag wyt ti yn dy fywyd, mae yna rywbeth newydd o hyd i edrych ymlaen ato ym mis Medi, does? Dosbarthiadau newydd, cyfle i wneud ffrindiau newydd ac, y peth mwyaf cyffrous, deunydd sgwennu newydd. Mae wastad angen cas bensiliau newydd!
I rai, mae’r wythnosau nesaf yn rhai sy’n arwain at newid byd – symud i ffwrdd i’r brifysgol. Boed rhywun yn symud i ffwrdd o adref am y tro cyntaf neu’n mynychu cwrs agos, ac yn aros adref, dydi ystyried mynd i’r brifysgol fel “newid byd” ddim yn gor-ddweud! I nifer, dyma gyfle i reoli amser, cymdeithasu ac astudio, a hynny am y tro cyntaf yn annibynnol. Neb i ddweud wrthyt ti ble i fynd, pryd i astudio na beth sydd i swper. Fe allet ti gael têcawê bob nos os fyset ti eisiau. Er, dydi hynny ddim yn syniad rhy dda o safbwynt dy iechyd ariannol a chorfforol, ond y pwynt ydi, byset ti’n gallu achos ti di’r boss!
Dyma gyfnod ble mae clwstwr o deimladau mawr yn dod i’r fei. Cyffro, nerfusrwydd, hiraeth … mae bob dim yn digwydd yr un pryd ac mae’n gallu dod i deimlo’n ormod.
-
Wyt ti’n aros mewn fflat gydag eraill am y tro cyntaf? Efallai bod grwpiau ar socials dy brifysgol ble mae modd darganfod efo pwy fyddi di’n rhannu.
​
-
Wyt ti’n gwybod ble i fynd? Ble i barcio er mwyn dadlwytho a ble i fynd nesaf? Y siop gornel agosaf? Chwilia o flaen llaw ar Google Maps, ac arbed y lleoliadau mewn ffolder arbennig i roi dy hun ar ben ffordd ac i osgoi’r stress o fynd ar goll mewn lle newydd.
​
-
Gwna’n siŵr bod gen ti ddigon o fwyd am yr wythnos gyntaf. Dyma un o’r wythnosau prysuraf, rhwng Wythnos y Glas, dod i adnabod pobl newydd a mynychu’r darlithoedd cyntaf, felly’r peth diwethaf wyt ti angen ydi cyrraedd dy wely ar stumog wag a dim bwyd yn handi. Gwna’n siŵr bod dy hoff fwydydd yno’n disgwyl amdanat ti.
​
-
Ffonia adra – maen nhw’n poeni amdanat ti! Os mai dyma’r tro cyntaf i ti adael adref, yna nid dim ond ti sy’n mynd drwyddi’n emosiynol, felly gwna ffafr â dy deulu a ffonia adra!
​
-
Ffonia dy ffrindiau. Mae’n bosib bod dy grŵp o ffrindiau sydd wedi bod yn cwrdd yn ddyddiol ers blynyddoedd maith bellach wedi ei wasgaru ledled y wlad, felly trefna amser am alwad grŵp. Lleisiau cyfarwydd a hel clecs … oes unrhyw beth gwell na hynny?!
​
-
Cadwa bapur toilet wrth gefn! Os mai dyma’r tro cyntaf i ti fyw i ffwrdd o adref, mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i ti fod yn gyfrifol am brynu’r hanfodion. Dydi rhedeg allan o bapur toilet ar adeg anffodus DDIM yn brofiad delfrydol, felly cadwa roll neu ddau i un ochr ar gyfer argyfwng!
​
-
Yn olaf, cofia bod hyn yn newid mawr i ti. Efallai dy fod yn teimlo fel nad wyt ti’n ymdopi’n dda a methu dal hi ymhobman, ond rwyt ti yn ymdopi. Bydda’n garedig â thi dy hun, achos ti’n gwneud yn grêt!
​
Os wyt ti’n teimlo fel bod pethau’n mynd yn ormod, siarada gyda rhywun. Mae cymorth wastad ar gael i ti. Cer draw i’r gwefannau isod am gymorth pellach:
​​
​
bottom of page