top of page

Nodyn - Cofia Hunan Ofal!

2025-03-03 18.34.04.jpg

Efallai dy fod wedi clywed yr dylanwadwyr, influencers, yn siarad am hunan ofal gyda chynnyrch drud a chrand - ond wyddost di ei fod yn rhywbeth y gall pawb ei wneud, waeth beth yw dy cyllideb? Mae addysg, ysgol neu coleg, fod yn gallu achosi straen sylweddol. Gorfod adolygu ar gyfer arholiadau, neu gwympo allan gyda ffrindiau... mae'n bwysig ymarfer ychydig o hunan ofal er mwyn i ti allu bod ar dy orau; er mwyn bod yn ffrind, merch neu fyfyriwr gwell. A'r darn gorau ydi does dim angen i ti wario ceiniog o dy arian. Felly, dyma sut i ofalu am dy hun ar fudget. 

Yn gyntaf, beth sy'n dy wneud di'n hapus? Efallai dy fod yn hoffi dawnsio o gwmpas i  gerddoriaeth Taylor Swift, neu ddarllen erthyglau diweddaraf cylchgrawn Lysh! Mae hunanofal yn golygu gwneud mwy o'r pethau sy'n dy wneud di'n hapus. Mae pawb yn wahanol felly efallai na fydd yr hyn sy'n gwneud dy ffrind gorau yn hapus yn dy wneud di'n hapus. A does dim angen aros tan y penwythnos i allu ei wneud ychwaith. Mae modd ffeindio pocedi bach o amser ar unrhyw ddiwrnod yn hawdd.

 

Dechreua trwy dreulio 10 munud y dydd yn gwneud un neu fwy o bethau sy'n dy wneud di'n hapus. Gallai hynny olygu ysgrifennu’r hyn sydd ar dy feddwl i lawr yn dy ddyddiadur, neu os oes gen ti anifail anwes, cwtsho dy gi neu’r gath (a byddant yn mwynhau'r ffwdan hefyd!). Efallai y byddai'n syniad da i wneud dy waith cartref yn gyntaf, fel y medri di ymlacio'n llawn heb boeni bod gwaith ysgol yn amharu ar dy 'me time'. Arbrofa a cheisia ddarganfod yr hyn sy’n dy siwtio di. 

Efallai dy fod yn treulio llawer o amser yn tecstio dy ffrindiau ar dy ffon symudol. Wyddost di bod rhoi dy ffôn i lawr am hanner awr yn unig yn gallu dy helpu i deimlo'n llai o straen ac yn hapusach. Hefyd, bydd rhoi dy ffon i lawr yn dy wneud di'n ffrind gwell, oherwydd byddi di'n dod yn well gwrandäwr wrth sgwrsio â ffrindiau, yn hytrach na chael dy ffôn yn hawlio dy sylw. Efallai y byddi di hyd yn oed yn dechrau trend newydd, lle mae pawb yn rhoi eu ffonau i lawr ac yn sgwrsio heb TikTok yn denu dy sylw!

 

Soaking Up the Sun_edited.jpg
Best Friends

Gofala am dy gorff - gwna’n siŵr dy fod yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau, yn yfed digon o ddŵr, ac yn cael noson dda o gwsg fel dy fod yn deffro yn teimlo'n ffres ac yn barod am ddiwrnod newydd sbon. Gwna’n siŵr dy fod yn bwyta brecwast bob bore hefyd, er mwyn rhoi'r egni sydd ei angen arnat ar gyfer y diwrnod i ddod. Cer allan yn y byd natur, rho dy ffôn i lawr a sylwi ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Beth wyt ti’n gallu gweld?, ei glywed a'i arogli? Teimla'r heulwen ar dy wyneb. Teimlo’n wych, dydi? Beth am drin dy hun i siocled poeth pan fyddi di'n mynd yn ôl y tu mewn.

Gwna yn siŵr dy fod yn ychwanegu rhai o weithgareddau ynni isel hefyd. Cer i dy lyfrgell leol i stocio fyny ar lyfrau gwych, neu cer amdani i bobi bisgedi blasus. Os wyt ti’n greadigol, efallai bod tynnu llun, ysgrifennu stori fer neu lythyr at ffrind yn ffordd ddelfrydol o ymlacio. Unrhyw beth sy'n dy helpu anghofio am y byd ‘go iawn’ am ychydig bach. Rwyt ti'n gweld dy ffrindiau drwy'r wythnos yn yr ysgol, y coleg neu’r gweithle, felly gwna yn siŵr dy fod yn treulio amser gwerthfawr gyda dy deulu hefyd. Beth am gael chill bach ar y soffa gyda'ch gilydd a gwyliwch ffilm a gwnewch hyn beth rheolaidd fel traddodiad y byddwch chi i gyd yn siŵr o drysori am flynyddoedd i ddod.

 

Felly, nawr dy fod yn gwybod y cyfrinachau i hunan ofal, beth am ei wneud yn beth rheolaidd. Bydd di’n siwr o deimlo’n ffantastig! 

@TheSavvyWelshGirl

 

bottom of page