top of page

Nia a'r Flodeugerdd: 

O Ffrwyth y Gangen Hon

2025-03-11 10.06.47.jpg

Ym mis Medi 2023, ges i e-bost gan Beth Celyn, Golygydd Creadigol newydd Cyhoeddiadau Barddas, i ofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn golygu blodeugerdd newydd i fenywod. Doeddwn i erioed wedi gwneud gwaith o’r fath. Ar y pryd, roeddwn i ar ddechrau fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru hefyd, felly roedd gen i ddigon o gwestiynau am sut y baswn i’n gallu cydbwyso’r ddau. Ond er y pryderon am gymryd prosiect newydd heb lawer o brofiad, roedd hi’n swnio fel cyfle gwych, a ro’n i’n gyffrous dros ben i ddweud ‘ie’ ac i ddechrau’r gwaith.

Ar ddechrau’r broses cefais i gyfarfod gyda Beth er mwyn penderfynu ar thema’r flodeugerdd. Roedd angen pwysleisio cynwysoldeb y gyfrol, gan gynnwys cerddi gan fenywod o bob profiad. Hefyd, roeddwn ni’n cytuno fod angen gofod i ddathlu llwyddiannau a phrofiadau menywod – yn enwedig y menywod oedd efallai ddim wedi derbyn y clod roedden nhw’n haeddu, a menywod anufudd, gwrthryfelgar neu ryfedd. Felly, penderfynom ni ar y thema ‘gorfoledd’. Ro’n i eisiau gweld cerddi’n canmol menywod llwyddiannus ac uchelgeisiol, ond hefyd cerddi oedd yn dathlu perthnasau mwy personol rhwng menywod - cerddi am chwiorydd, mamau, ffrindiau, a mwy. Bues i’n ddigon ffodus i allu rhedeg gweithdy ar y thema o orfoledd yn ystod y galwad agored, ac roedd clywed canlyniadau’r gwaith creadigol a ddaeth o’r gweithdy yn profi imi fod beirdd benywaidd Cymru eisiau dathlu’r menywod yn eu bywydau.

 

Ond sut i roi teitl ar flodeugerdd gynhwysol oedd yn dathlu menywod o bob math? Es i at waith Cranogwen am yr ateb. Mae ei chyfrol Caniadau Cranogwen yn dechrau gyda’r gerdd ‘Y Cyflwyniad’, sydd yn diolch i’w mam am ei magu’n dda. Mae Cranogwen yn disgrifio’i hun fel coeden yn y gerdd, a’i hawen fel ffrwyth ‘eiddil’ y mae hi eisiau cyflwyno i’w mam, fel prawf o’i gofal tuag at ei merch. Dyma gerdd oedd yn dathlu’r perthynas agos rhwng mam a merch, gan un o’r beirdd benywaidd mwyaf blaengar ac unigryw yn hanes Cymru: doeddwn i ddim yn gallu meddwl am well ffordd i roi teitl i’r gyfrol. Felly, cafodd “O Ffrwyth y Gangen Hon” ei enw, ar ôl un o linellau’r gerdd.

Cawsom ni dros bedwardeg o gerddi yn yr alwad agored, ac wrth ddarllen trwy’r swp o waith ddaeth i mewn i fy inbox, gwelais themâu pendant yn ffurfio. Roedd yna gerddi am famolaeth, ffrindiau a chwaeroliaeth, rhai am bleser rhywiol, llwyth oedd yn canmol menywod pwysig neu hanesyddol, ac yn olaf, cerddi oedd yn pwysleisio pwysigrwydd hunanwerth. Mae darllen a golygu’r cerddi wedi agor sgyrsiau tyner am famau a neiniau, ffrindiau gorau a chwiorydd, ac mae’r cariad yma at y menywod sy’n cael effaith arnom ni’n sicr yn amlwg ar y dudalen. Mae darluniau hyfryd Mari Phillips (MythsnTits) yn rhoi naws hwylus a chariadus at y cerddi gwych, ac roedd gwaith ffres a modern y dylunydd, Dafydd Owain, hefyd yn adlewyrchu hwn.

 

Writing with Pen
O Ffrwyth y Gangen Hon - Clawr.jpg

Felly, ar ôl sawl rownd o olygu gen i, Beth, a’r golygydd copi anhygoel Alaw Mai Edwards, daeth y gwaith i ben o’r diwedd ar ddechrau 2025. Rwy’n ddiolchgar iawn i Beth, Erin (cydlynydd marchnata Barddas), Alaw, Dafydd, a Mari am weithio gyda fi ar y flodeugerdd. Roedd hi’n deimlad swreal dal y flodeugerdd yn fy nwylo am y tro cyntaf. Mae geiriau’r beirdd yn disgleirio allan o’r tudalennau a’r angerdd yn amlwg iawn i’w gweld. Rydw i mor falch o bob un, y beirdd adnabyddus a’r rhai newydd sbon, ac yn methu aros i ddathlu eu cerddi nhw yn y lansiad ar Ddydd Iau, Mawrth yr 20fed. 

Mae yna gerddi i bob math o ddarllenwr yn y flodeugerdd hon, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n ffeindio cerdd sy’n cyffwrdd eich calon chi ymysg y tudalennau. Ac rwy’n gobeithio, ar ôl darllen y gyfrol, y byddwch chi’n cytuno gyda fy marn bersonol i: bod chwaeroliaeth yn cadw’r byd yn troi.

Mae lansiad y flodeugerdd am 7yh, Mawrth y 20fed 2025, yn y Queer Emporium yng Nghaerdydd. Bydd Casi Wyn yn holi Nia Morais am y broses golygu, a bydd yna luniaeth ysgafn fel rhan o’r digwyddiad. Mae yna groeso i bawb i fynychu!

 

bottom of page