top of page

Jess Fishlock
a Caru Darllen

BCW_Blog_Jess_V2_CY_SQUARE_1B.jpg

Wyt ti wedi cael eich llyfr am ddim eto, heb dalu’r un geiniog? Wel, mae project Caru Darllen Ysgolion, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi cyrraedd carreg filltir. Maen nhw wedi dosbarthu dros hanner miliwn o lyfrau am ddim i blant ar hyd a lled y wlad. Da!

Ac yn goron ar y cyfan, mae’r project yn cael sêl bendith neb llai na seren pêl-droed rhyngwladol Cymru, Jess Fishlock MBE. Nid yn unig yn ddewines ar y cae, mae Jess hefyd yn eiriolwr enfawr dros gynrychiolaeth amrywiol mewn llenyddiaeth.

Wrth siarad am ei phrofiadau ei hun, gall llyfrau wneud byd o wahaniaeth, yn ôl Jess. 

“Mae gwelededd gwahanol gymunedau a hunaniaethau o fewn llyfrau mor bwysig. Cefais drafferth yn yr ysgol gyda bwlio a dod i delerau â fy rhywioldeb. Rwy'n meddwl pe bai llyfrau wedi bod ar gael i mi bryd hynny, i'm helpu i ddeall yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl a'i deimlo, yna efallai na fyddwn wedi mynd trwy'r hyn yr es i drwyddo,” meddai.

 

Mae cynrychiolaeth yn hollbwysig, meddai eto, er mwyn adlewyrchu’r byd sydd ohoni.
 

“Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i addysgu dysgwyr am y byd o’u cwmpas, a’u harfogi â gwybodaeth am bobl o bob cefndir, mae hyn yn cynnwys cynrychioli pobl o’r gymuned LHDTQ+ mewn llenyddiaeth neu hyd yn oed werslyfrau ysgol,” meddai Jess.

Pwysleisiodd Jess hefyd pa mor bwysig y gall llyfrau fod, yn enwedig mewn cyfnod heriol. 

“Pan mae pethau’n anodd, efallai eich bod chi’n meddwl mai llyfr yw’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi, ond fe allai fod y peth gorau i fuddsoddi ynddo ar hyn o bryd, gan fod ganddo’r gallu i fynd â chi i fyd arall.

 

BCW_Blog_Jess_V2_CY_LANDSCAPE_2.jpg

“Yn ystod cyfnod ariannol anodd, mae gan bobl fynediad i lyfrgelloedd lleol o hyd, maen nhw’n ffordd wych o gael gafael ar lyfrau am ddim.”
 

Colorful Book Spines

Nid yw'r project hwn yn ymwneud â dosbarthu llyfrau yn unig. Mae'n ymwneud â chreu chwyldro darllen yng Nghymru.

A dyw’r stori ddim yn dod i ben yn fuan. Yn 2023, bydd pob ysgol wladol yng Nghymru yn derbyn bocs o 50 o lyfrau i danio dychymyg a diléit darllen hyd yn oed yn fwy. Mae ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yn ymwneud â thanio brwdfrydedd dros ddarllen, gan ddangos i bobl ifanc, fel chi, y llawenydd pur o gael ymgolli mewn llyfr da. Cadwch lygad allan am y llyfrau yn eich ysgol chi!

Ac i feddwl, fe ddechreuodd hyn oll gyda syniad, ambell docyn llyfr, a’r gred y dylai pob plentyn yng Nghymru fod yn berchen ar lyfr. 

I ddarganfod mwy am Gyngor Llyfrau Cymru neu i ddarllen y blogiau ‘Caru darllen’, ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru
yma.

 

bottom of page