top of page
hysbysebu gyda ni
Mae Lysh yn gylchgrawn ar-lein rhad ac am ddim wedi ei anelu at bobl ifanc 16-23 oed. Mae nod y cylchgrawn yn syml - darparu platfform diogel i ferched ifanc Cymru rannu eu straeon a'u barn, heb feirniadaeth.
Ein nod yw darparu cynnwys deniadol i’n darllenwyr sy’n rhoi llais i ferched ifanc Cymru, a hynny yn Gymraeg. O adloniant i les, ffasiwn i hamdden - gall ein cynnwys gynnwys unrhyw beth sy'n berthnasol i'n prif gynulleidfa.
Pwy yw ein cynulleidfa?
Mae ein cynnwys wedi’i anelu at ferched 16-23 oed yng Nghymru.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gall ein cynnwys fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd eraill:
• Pobl 24-30 oed
• Rhieni pobl ifanc 16-23 oed
• Canolfannau / clybiau ieuenctid
• Dysgwyr Cymraeg
Sut i gael mynediad at y cynnwys:
Mae gan Lysh ei gwefan ei hun sydd wedi'i ddiweddaru ym Mehefin 2024 ac mae’r cynnwys yn cael ei bostio ar ffurf blog ar www.lysh.cymru.
Rydym hefyd yn postio'n aml ar Instagram, X a Facebook.
Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom ddechrau e-gylchlythyr ac mae'n mynd o nerth i nerth, gyda chyfradd agor o 86% ymysg ein darllenwyr.
Ond nid dyna’r cyfan - ym mis Rhagfyr 2023 fe wnaethom hefyd ddechrau podlediad sydd â chwe phennod ar gael yn barod. Gallwch wrando arnynt yma: https://ypod.cymru/podlediadau/byddlysh?id=byddlysh.
Rydym hefyd yn datblygu ein presenoldeb ar YouTube ac mae gennym dros 70 o fideos gyda chynnwys yn amrywio o gyfweliadau i awgrymiadau ar iechyd meddwl, lles a ryseitiau.
Hysbysebu
Rydym am wneud yn siŵr bod ein hysbysebion yn berthnasol i’n cynulleidfa, ac rydym yn gofyn yn garedig i hysbysebwyr sydd â diddordeb gadw at y gofynion canlynol:
• bod yr hysbysebion yn ddwyieithog neu’n uniaith Gymraeg
• bod yr hysbysebion yn targedu ein cynulleidfa sef pobl ifanc 16-23 oed
Byddem yn fwy na pharod i weithio gyda chi i sicrhau bod y cynnwys yn bodloni'r gofynion uchod.
Pecynnau
Dyma restr o'r mathau o hysbysebion y gallwn eu cynnig:
​• Hysbysebion ar y dudalen gartref
• Hysbyseb ar yr e-gylchlythyr
• Cynnwys wedi’i noddi ar ein sianel cyfryngau cymdeithasol
• Cynnwys golygyddol ar gyfer y cylchgrawn
• Darlleniad ar y podlediad
Prisiau Pecyn Enghreifftiol:
* Sylwch mai prisiau a phecynnau enghreifftiol yw'r rhain, gallwn deilwra pecynnau yn dibynnu ar eich gofynion a'ch cynnwys.
Y Cylch Lysh
Bydd yr holl arian rydym yn ei dderbyn drwy roddion, tanysgrifiadau a hysbysebion yn cael ei fuddsoddi yn lysh.cymru i gael y gwefan gorau i'r gynulleidfa. Bydd cyllid ychwanegol yn ein galluogi i gynyddu ein herthyglau a denu mwy o gyfranwyr i ymdrin ag ystod ehangach o bynciau; fydd yn ei dro yn cynyddu ein cynulleidfa a’r nifer sy’n agor y cynnwys ar draws ein holl lwyfannau, gan ei wneud hyd yn oed yn fwy Lysh.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os oes gennych ddiddordeb mewn hysbysebu gyda Lysh, cysylltwch â ni isod i drafod eich syniadau fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu'r cynllun gorau i chi.
bottom of page