top of page
Hawliau Selebs: Pethau’n mynd rhy bell?
Dydi addoli selebs ddim yn rhywbeth newydd o gwbl. Mae’r syniad o fod yn “ffan” o gerddor enwog wedi bodoli trwy gydol ein hoes ni, ond credai rhai bod y syniad o ddiwylliant selebs wedi cychwyn ar dro’r 20fed ganrif.
Mae sawl achos ble mae papparazzi ac ysgrifenwyr colofnau hel clecs wedi taflu baw ar selebs er mwyn gwerthu cylchgronau, denu ‘clics’ ar-lein a gwneud elw budr. Yn ddiweddar, datgelodd y gantores Tulisa, cyn-feirniad ar sioe dalent The X Factor, bod newyddiadurwr wedi creu sefyllfa er mwyn gwerthu stori. Mewn cyfweliad gyda Fearne Cotton ar ei phodlediad Happy Place, dywedwyd bod newyddiadurwr wedi ffugio sefyllfa er mwyn portreadu Tulisa fel rhywun â phroblem cyffuriau. Wrth gwrs, nid dyma’r unig esiampl o newyddiadurwyr yn ymosod ar selebs, a hyd heddiw mae cylchgronau hel clecs yn rhannu lluniau tynnwyd heb ganiatâd o selebs yn joio gwyliau ar lan y môr, yn nodi bob manylyn “amherffaith” i’w darllenwyr.
Ychydig o wythnosau yn ôl, cyhoeddwyd fideo ar-lein gan y gantores Chappell Roan yn rhannu ei phrofiad o gael ei llun wedi’i dynnu heb ganiatâd. Roedd yr unigolion yn ymddwyn fel bod hawl ganddyn nhw i dynnu llun gyda Chappell Roan – am ei bod hi’n seleb. Dydi Chappell ddim yn newydd i’r sîn gan ei bod wedi bod yn cyfansoddi ac yn rhannu ei cherddoriaeth ers iddi gyhoeddi ei fideo cyntaf ar wefan YouTube yn 2013. Ar ôl ei holl waith caled, mae hi bellach yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd ar raddfa anghredadwy, yn llwyddo i ddenu’r gynulleidfa fwyaf erioed yng ngŵyl fyd-enwog Lollapalooza yn Chicago.
Mewn fideo ar-lein, dywedodd;
“Am y 10 mlynedd diwethaf dwi wedi bod yn mynd yn ddi-stop er mwyn adeiladu fy mhrosiect ac mae o wedi cyrraedd y pwynt ble mae’n rhaid i mi osod ffin. Dwi wedi eisiau bod yn artist am amser hir, hir. Dwi wedi bod mewn gormod o sefyllfaoedd nonconsensual yn gorfforol ac yn gymdeithasol ac mae’n rhaid i mi osod hyn allan ac atgoffa chi, dydi merched ddim arna i ddim byd i chi. Dwi wedi dewis y llwybr gyrfa yma achos dwi’n caru cerddoriaeth a dwi’n anrhydeddu fy mhlentyn-mewnol, dydw i ddim yn derbyn aflonyddu o unrhyw fath oherwydd fy mod i wedi dewis y llwybr yma, na chwaith ydw i’n ei haeddu.”
Rŵan mae Chappell yn profi natur gynhyrfus, reibus y diwylliant, ond dydi hyn ddim yn nodi trobwynt cas yn niwylliant y selebs – mae’r diwylliant cyfan wedi bod yn wenwynig ers degawdau. Roedd dilyn selebs, darllen eu straeon mewn cylchgronauyn y 90au a’r 00au gan hel clecs am eu bywydau yn heintus. Roedd, heb os, yn ddiwylliant oedd yn cynhyrchu elw mawr. Erbyn heddiw, does fawr ddim wedi newid, ac wrth i’r cyfryngau cymdeithasol roi platfform i bob barn, cas neu beidio, mae’r atgasedd wedi chwyddo i raddfa na welwyd o’r blaen.
Felly, beth allwn ni wneud? Fel arfer, y pethau bach! Mae osgoi cylchgronau print sy’n hyrwyddo casineb yn fan cychwyn gwych. Serch hynny, mae erthyglau a chynnwys creulon yn ein cyrraedd ar y socials – felly peidiwch â chlicio’r un linc! Drwy beidio ymgysylltu, byddwch chi’n gweld llai o’r cynnwys, ac os wnawn ni i gyd droi cefn, bydd y cynnwys yn siŵr o bylu. Mae cryn dipyn o ffordd i fynd i chwalu’r diwylliant, a’i ail-ffurfio ar newydd wedd, ond mae un cam bach ar y troyn ffordd dda o gychwyn.
bottom of page