top of page

Galar: Sut ydw i’n ymdopi adeg y Nadolig?

Christmas Lights

Wythnos ddiwethaf, cwrddon ni â Ursula, sydd wedi cychwyn ar ei pharatoadau Nadolig drwy helpu sicrhau bod pawb yn ei chymuned yn derbyn anrheg. Mae eraill wedi cychwyn ar eu siopa Nadolig fisoedd yn ôl, yn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le mewn da bryd. Coeliwch neu beidio, mae rhai wedi rhoi’r goeden i fyny yn barod – ond dadl am ddiwrnod arall yw honna!

Eleni, fel pob blwyddyn, mae pobl ar draws y wlad yn paratoi am Nadolig heb anwyliaid. Mae dathliadau, fel y Nadolig, yn gallu rhoichwyddwydr ar alar a chodi teimladau nad oeddetti’n gwybod oedd yn dy galon o gwbl. Felly, os wyt ti’n poeni am wynebu’r holl ddathlu heb rywun arbennig wrth dy ochr, darllena ymlaen. Tyrd i ni baratoi gyda’n gilydd.

Does dim amser terfyn ar alar
 
Efallai mai eleni yw dy Nadolig cyntaf heb rywun – y Nadolig anoddaf, heb os. Ond, dydi hynny ddim yn golygu bod y Nadoligau sy’n dod yn mynd i fod llawer haws bob tro. Mae gen ti berffaith hawl i deimlo sut bynnag wyt ti’n teimlo, a hynny blwyddyn, degawd neu hyd yn oed mwy, ar ôl colli rhywun. Dydi galar ddim yn pylu gydag amser i bawb, ac mae hynny’n normal. Profiad unigol ydi galar, a ti sy’n berchen ar dy alar di – paid â gadael i neb ddweud fel arall.

Does dim ffordd gywir i alaru

Mae galar yn hen beth rhyfedd, achos mae’n gallu rhoi rhyw deimlad i ti na ddylet ti fod yn mwynhau. Wrth i ti joio mins pei ar bwys y goeden, mae galar yn gallu neidio allan arnat ti’n ddirybudd a mynnu gwybod “Sut allet ti fod yn mwynhau a thithau wedi colli rhywun?!” Profiad sy’n mynd i lorio rhywun yn llwyr! Mae galar yn gallu dy gwestiynu di fel hyn ac os wyt ti’n gweld dy hun yn y sefyllfa yma, cofia bod ‘mwynhau’ a ‘galaru’ yn gallu cyd-fynd. Dydyn nhw ddim yn deimladau i’w profi yn unigol bob tro. Joia, galara, a bwyta’r mins pei ’na!
 

White Lillies
Christmas Views

Yn rhyfeddach fyth, mae galar yn gallu bod yn wahanol ar gyfer profedigaethau gwahanol. Does dim byd yn syml, nag oes? Hynny yw, efallai y byddi di wedi colli un person, a’r galar yn cynnig teimladau o hiraeth sy’n gymysgedd cytbwys o dristwch a hapusrwydd. Wrth gofio am berson arall, mae’n gallu cymryd dy wynt wrth gofio nad ydyn nhw gyda thi mwyach. I wneud pethau’n gymhlethach fyth, mae’r profiadau yma yn gallu amrywio gydag amser, felly dilyna dy galon a chofia bod gwneud beth sy’n teimlo’n gywir i ti yn iawn.

Does dim ffordd gywir o gofio


Yn ystod cyfnod y Nadolig, mae’n bwysig i ni fod yn cofio’r rhai nad ydyn nhw rownd y bwrdd. Mae’n bwysig cofio, hefyd, ein bod yn dilyn ein calonnau i wneud yr hyn sy’n teimlo’n iawn er mwyn cofio’n anwyliaid. Hynny yw, mae rhai yn cofio aelod o’r teulu drwy osod lle gwag wrth y bwrdd, ond dydi hyn ddim yn teimlo’n iawn i bawb. Mae eraill yn gosod addurniadau Nadolig gyda lluniau aelodau’r teulu ar y goeden, ond efallai nad hwn yw’r traddodiad i ti. Allet ti ymweld â’r fynwent i sgwrsio gyda’r person rwyt ti wedi ei golli, ond does dim rhaid i ti os nad ydi hynny’neistedd yn dwt yn dy galon. Efallai y byddi di’n datblygu traddodiadau blynyddol dy hun, neu yn gwneud rhywbeth gwahanol bob blwyddyn – dilyna’r hyn sydd yn teimlo’n iawn i ti.
 

bottom of page