top of page

Gair i Gall:
Gŵyliau Cymreig

Untitled design (33).png

Maen nhw’n dweud eich bod chi’n gallu clywed yr haf Cymreig yr holl ffordd o’r lleuad. Wel, ella dydi hynny ddim yn hollol wir, ond mae’n ffaith fod yr haf Cymreig yn un swnllyd ac yn hwyl tu hwnt. Gyda gŵyl bron bob penwythnos ar hyd a lled y wlad, mae cyfle i bawb fwynhau, glaw neu hindda!

Er mwyn creu'r atgofion melysa’ posib, mae yna ychydig o bethau sy’n rhaid i chi gofio. Dyma ganllaw gair i gall i’ch rhoi ar ben ffordd fel eich bod yn gallu joio gymaint ag sy’n bosib!

 

Camping Site

Cofia...

Esgidiau glaw! Does 'na ddim byd gwaeth na thraed gwlyb mewn gŵyl, ond does dim byd gwell na throedio cae mwdlyd mewn wellies lliwgar. Cadwch lygaid ar ragolygon y tywydd, wrth gwrs, ond peidiwch ag ymddiried ynddo! Does dim rhesymeg wyddonol am dywydd adeg gwyliau cerddoriaeth. Taflwch nhw yn y car, rhag ofn! Ac ar y nodyn yna, cofiwch poncho law ysgafn. Buddsoddwch mewn un o safon dda (dim y rhai plastig untro!) sy’n gorchuddio eich gwisg gymaint ag sy’n bosib. Does neb eisiau dillad gwlyb!

Paid anghofio...

Esgidiau call. Os na fydd hi’n bwrw glaw, rhaid cael pâr o esgidiau cyffyrddus. Dwi’n gwybod, mae gen ti esgidiau stunning ac rwyt ti’n ysu i’w gwisgo nhw. Ond mae’n bwysig ystyried pa bâr o esgidiau fyddi di’n hapus yn ei wisgo drwy’r dydd i gyd. Paid â gadael i esgidiau gwael difetha dy ddiwrnod!

 

Cofia...

Eli haul.  Mae gorgeous gorgeous girls yn edrych ar ôl eu croen! Dyma ffordd syml o edrych ar ôl dy groen am y tymor hir, ac mae’n cymryd eiliadau yn unig. Sicrha dy fod yn gwisgo SPF 30 neu’n uwch, hyd yn oed pan mae’r haul yn cuddio tu ôl i’r cymylau. Tyrd â digon efo ti i’w rannu gyda dy ffrindiau hefyd, oherwydd mae rhywun yn siŵr o anghofio!

Paid anghofio...

Potel ddŵr! Sôn am edrych ar ôl dy groen, mae’n rhaid gwneud yn siŵr dy fod yn yfed digon o ddŵr. Tyrd â photel o ddŵr efo ti i’w hail lenwi. Mae hyn yn gwneud synnwyr am sawl rheswm; i edrych ar ôl dy gorff ac i edrych ar ôl dy arian! 

 

Music Festival
Girl Watching Sunset

Cofia...

Amserlen! Cyn i ti fynd ati i fwynhau, edrycha ar yr amserlen i weld pwy sy’n perfformio ar ba lwyfan neu babell. Mae cael syniad o ble i fynd a phryd o fudd i wneud yn siŵr dy fod yn cael y cyfle i fwynhau cymaint o berfformiadau ac sy’n bosib! Weithiau, bydd perfformiad yn digwydd fwy nag unwaith, neu bydd artist yn canu mewn mwy nag un lleoliad, ac mae hynny’n ddefnyddiol i wybod er mwyn sicrhau dy fod yn gweld popeth rwyt ti eisiau ei weld!

Paid anghofio...

Teclyn gwefru symudol i dy ffôn. Dyma declyn all achub y dydd! Mae gan sawl gŵyl ap arbennig y dyddiau yma, sy’n handi iawn ar gyfer gweld amserlen perfformiadau neu gystadlaethau, sy’n gallu newid weithiau. Ond, be’ sy’n digwydd pan mae’r ffon yn rhedeg yn isel, gen ti amserlen i’w wirio, selfies i’w tynnu ac mae dy ffrind wedi mynd ar goll ac yn trio ffonio? Panig llwyr, dyna be’! Dewch â theclyn gwefru symudol efo chi!

 

Oes gen ti tips defnyddiol i’w rannu? Cer draw i dudalen Instagram a Facebook Lysh er mwyn rhannu dy gyngor di ac i ddarllen tips rhai o’n darllenwyr!
 

bottom of page