top of page
Gair gan y Golygydd
gan Llio Angharad
Wel, mae blwyddyn wedi hedfan. Blwyddyn ers i mi eistedd i lawr i ysgrifennu’r Gair gan y Golygydd diwethaf a chymaint wedi newid yn y byd, yn agos at adref ac ymhellach dramor. Mae yna air o gyngor sy’n cael ei rannu ar Lysh yn aml, sef os ydi rhywbeth yn eich poeni chi mae rhannu eich meddyliau gydag eraill - boed ar lafar neu fel arall, o fudd. Wel, dyma fi yn cymryd y cyngor yna, yn rhoi fy meddyliau diweddar i lawr ar bapur mewn gobaith o allu gwneud synnwyr o’r hyn sy’n troelli yn fy mhen.
Mewn byd ble mae yna ddigwyddiadau enfawr ac erchyll yn boenus o bresennol, yn aml mae rhywun yn mynd i deimlo’n ddiobaith. Er gymaint byswn i’n hoffi rhoi stop ar y rhyfel yn Gaza a’r helyntion yn Haiti, allai ddim. Ond, fe allai wneud pethau bychain, ynghyd â phobl eraill - gan weithredu gyda’n gilydd mewn gobaith, a chamu’n nes at heddwch.
Ychydig o wythnosau yn ôl, fe wnes i ymuno mewn digwyddiad oedd yn galw am gadoediad yn Gaza, draw ar y Maes yng Nghaernarfon. Y tu ôl i’r siaradwyr, roedd yna faner wen gyda miloedd o enwau arni o enwau plant oedd wedi cael eu lladd ers mis Hydref. Ers gorffen y faner honno, mae marwolaethau pellach wedi bod ac felly cawsom ein gwahodd i mewn i Gapel Ebeneser gerllaw er mwyn cychwyn baner newydd gan ddewis enw o fasged a’i ysgrifennu. Dau hogyn tua 10 oed, cychwynnodd y faner newydd wrth nodi’r ddau enw cyntaf, gyda ffelt pen mewn un llaw a chennin pedr yn y llall. Yna, dyn mewn oed a dynnodd ei gap cyn dewis enw o’r fasged orlawn. Wedyn dyma fy nhro i, yn camu tuag at faner wen wag, yn gwybod y bydd yna filoedd o enwau yn ei haddurno mewn dim. Yr enw ddewisais o’r fasged oedd Reem Muhammad Jameel Abu Hayyah a fu farw’n 7 oed.
Roedd y profiad o ddewis enw o fasged, a chymryd yr amser i ysgrifennu ei enw, yn brofiad fydd yn aros yn fy nghof am byth. Wnes i geisio dychmygu sut y byddai’r plentyn yma’n edrych. Oedd o’n hoffi pêl-droed tybed, fel fy hogyn bach i? Neu’n hoff o wneud lluniau, neu efallai fod yn well ganddo bobi gyda'i fam tra bod ei frodyr a’i chwiorydd yn canu’n hapus y tu allan? Does gen i ddim ateb i’r cwestiynau yna a wnai fyth ddod o hyd i ateb, chwaith. Ond mae yna un peth dwi’n siŵr ohono; roedd y plentyn yma yn ddiniwed.
Er fy mod i’n ddiobaith o dro i dro, yn llawn ymwybodol nad oes llawer allai wneud i helpu unrhyw un mewn gwlad mor bell, roedd bod ar y Maes y diwrnod hwnnw, i mi, wedi atgyfnerthu’r pwysigrwydd o wneud y pethau bychain gyda’n gilydd ac uno ein lleisiau er mwyn gallu gweiddi’n uwch. Byddai’n parhau i wneud camau bach tuag at bob un achos da, yn gymunedol ac yn rhyngwladol, a dwi’n mawr obeithio gallwch chi neud yr hyn sy’n bosib i chi, hefyd.
Heb os nac oni bai, byddai’n cofio am Reem Muhammad Jameel Abu Hayyah wrth i mi wneud pob gweithred fach.
bottom of page