top of page
Fi yw Taniesha
Un tro, roeddwn i'n adnabod merch. Roedd hi’n wynebu llawer o heriau. Dechreuodd y cyfan pan oedd hi’n blentyn ifanc. Roedd hi a’i brodyr a chwiorydd yn hapus yn byw gyda’u mam, yn gweld eu tad o bryd i’w bryd. Cymerodd ei bywyd tro tywyll.
Pan oedd y ferch yn 8 oed syrthiodd ei fam yn sâl a rhoddwyd y ferch, ei brodyr a’i chwiorydd mewn gofal nes iddi wella. Yn anffodus aeth y cyfan yn ormod iddi a bu ei mam ladd ei hun yn 2015.
Ar ôl misoedd o drefniadau gwahanol, fe aeth y ferch ac un o’i chwiorydd i fyw â’i thad a chael eu gwahanu oddi wrth y gweddill. Roedd pethau’n mynd yn dda am gyfnod. Roedd ganddi gartref newydd, ysgol newydd a ffrindiau newydd. Bywyd newydd.
Yn gyflym dechreuodd pethau fynd o’u chwith. Nid oedd ei thad erioed wedi cael ei blant yn llawn amser o’r blaen ac roedd yn dechrau cymryd tro arno. Tyfodd yn berson hollol wahanol i’r hyn yr oedd hi’n ei adnabod o’r blaen, gyda thymer fer a byddai’n bachu ar y pethau lleiaf. Roedd hi a’i chwaer yn wynebu blynyddoedd o gam-drin, yn gorfforol ac yn feddyliol, straen a phoen.
Dechreuodd eu tad cael ei hun i mewn i drafferth gyda’r gyfraith ac un diwrnod aeth pethau’n rhy bell. Nid oedd unrhyw siawns iddo adfer ei enw. Pe bai’n cael ei ddal byddai’n cael ei roi yn y carchar yn syth. Bu ef a’r merched yn rhedeg am wythnosau, yn cysgu yn nhai ffrindiau heb fol llawn yn y nos a heb offer priodol ar gyfer yr ysgol.
Dechreuodd fynd yn anoddach ac anoddach i gadw ei hun yn rhydd allan o’r carchar a phenderfynodd y peth gorau i’w wneud oedd cymryd ei fywyd ei hun gan adael ei ferched yn amddifad.
Roedd y merched mor bryderus y byddent yn cael eu rhoi mewn i’r system ofal unwaith eto a roedd y merched yn meddwl nad oedd aelodau eraill ei theulu eisiau gofalu amdanynt. Ond, diolch byth, roedd y merched yn anghywir ac roedd ei modryb a'i hewythr yn barod i ofalu amdanynt heb betruso. Symudodd y merched i’r cartref newydd unwaith eto ond y tro yma nid oedd rhaid iddynt ddechrau eu bywydau eto, dim ysgol newydd ac nid ffrindiau newydd. Roedd ganddynt yr hawl i aros yn eu hunfan ac ail-lunio eu bywydau.
Oherwydd y trawma roedd y merched wedi'i ddioddef roeddent yn gallu cael cwnsela a cheisio symud ymlaen a gwthio heibio’r atgofion hull. Roedd pethau'n gwella yn araf ac ychydig iawn o ddiwrnodau da gafodd y ferch ar y cychwyn. Yn araf ond yn sicr roedd hi’n cryfhau.
Ar ôl ychydig o amser roedd y ferch yn gallu symud heibio’r trawma ac er bod yna adegau tywyll roedd ganddi bobl wrth ei hochr i’w harwain drwy’r twnnel tywyll hwnnw a gweld y golau.
Ond dwi'n wahanol nawr.
Bob dydd rwy’n edrych i’r drych ac nid wyf bellach yn adnabod y ferch honno. Mae hi wedi hen fynd. Rydw i wedi dod mor bell ac wedi cyflawni llawer o bethau gwahanol, fel pasio fy arholiadau TGAU ym mlwyddyn 10, ac rydw i’n lwcus i gael pobl sy’n aros wrth fy ochr ac sydd wedi fy helpu i dyfu i fewn i’r merch rydw i heddiw. Rwy’n dal i gael diwrnodau anodd, fel mae pawb, ac mae gen i bobl i’m tynnu allan o fy nghyfnodau tywyll.
Rwy’n hapus gyda faint yr wyf wedi newid a gyda’r person rydw i heddiw.
Rydw i a fy chwaer yn byw’r freuddwyd gyda’n modryb a’n hewythr. Rydym wedi gwneud llawer o atgofion hapus a heb os byddwn yn parhau i greu atgofion hwyliog newydd gyda’n gilydd.
Rwy’n falch ohona i, o’m cyflawniadau, fy nheulu agos a’m ffrindiau.
Rwy’n falch o fy mywyd.
bottom of page