top of page
Fi Mewn Tri
Melda Lois
Wrth gamu allan ar lwyfan Cân i Gymru nôl yn 2021 mewn siwt fflamgoch, creodd Melda Lois argraff go gadarn ar y genedl.
Mae’r gantores Melda Lois yn llwyddo i greu argraff ar bob llwyfan bellach wrth iddi deithio’r wlad gyda’i gitâr. O Noson Lawen i gig yn Llangwyer a’r holl ffordd i faes yr Eisteddfod, mae gwisg i’r gigs yn bwnc pwysig. Manteisiodd Lysh ar y cyfle i holi am ei steil gan holi’n gyntaf pa ddilledyn fyddai hi ar goll hebddi?
Melda Lois: Fyswn i ar goll heb fy ‘shacket’ (cyfuniad o shirt a jacket!) brown o Uniqlo. Dwi'n tueddu i'w thaflu hi mlaen dros unrhyw outfit ac anaml iawn neith hi ddim gweithio! Do'n i ddim yn gwybod fod Uniqlo yn bodoli tan i fi fynd yno ar drip i Lundain hefo ‘nghariad llynedd, a wnes i wirioni'n lan efo'r lle, a gwario braidd gormod!
Lysh Cymru: Pa ddilledyn sy’n dal yr atgofion mwyaf melys?
ML: Mi o'n i reit chuffed pan wnes i ddod o hyd i'r siwt goch o Mango, sef y siwt wnes i wisgo ar Cân i Gymru 2021. Mae coch yn tueddu i siwtio fi reit dda ac roeddwn i eisiau gwisg fyswn i'n gallu teimlo'n gyfforddus iawn ynddi, ond hefyd rhywbeth fysa'n rhoi ryw hwb o hyder i fi. O'dd hi'n teimlo fel power suit go iawn! Mi o'n i wrth fy modd hefo'i ac mae gen i atgofion melys iawn o'i gwisgo'i ar y noson. Wnes ei gwisgo hi i briodas ychydig fisoedd yn ddiweddarach ac mi ges i lot fawr iawn o hwyl ynddi'r noson honno fyd!
LC: Beth yw’r fargen orau rwyt ti wedi dod o hyd iddi?
ML: Dwi'n ffeindio hi'n anodd iawn i ddweud na wrth fargen, felly mae'n anodd meddwl pa un fysa’r orau!
Y fargen ddiweddara i fi gael oedd pâr o Ray Bans am ryw £37 yn sêls Black Friday eleni (yn lle £147). Dwi wastad wedi bod awydd rhai, felly mi oedd hi bendant yn fargen wnaeth fy ngwneud i'n hapus iawn!
bottom of page