top of page
Fi Mewn Tri -
Betsan Ceiriog
Mae’n deg i ddweud, does dim byd yn deffro gwisg yn well na chot sebra ac mae’r actores Betsan Ceiriog yn gwybod yn iawn sut i droi hwdi arferol yn hwdi hynod steilysh.
Yn ei phrosiect diweddaraf, roedd Betsan yn serennu ar lwyfanau ledled y wlad yn perfformio ‘Croendena’ gyda Chwmni Fran Wen, yn gwireddu sgript arbennig Mared Llywelyn. A hithau ymysg amryw o brosiectau, manteisiodd Lysh ar y cyfle i holi ychydig o gwestiynau am ei steil.
Lysh Cymru: Pa ddilledyn fasa chdi methu byw hebddo?
Betsan Ceiriog: Yn onest, does gen i ddim un dilledyn faswn i methu byw hebddo. Ond, ges i bâr o fŵts o Mirsi yng Nghaernarfon mis Medi blwyddyn ddiwethaf. Andia Fora di nhw. Bŵts du, efo cria. Maen nhw mor gyfforddus, ac yn dal dŵr, sydd wastad yn handi! Dwi bellach wedi prynu'r un rhai mewn gwyn a hesian. Y ddau bâr yma o sgidia ydi fy go to.
LC: Beth yw dy hoff wisg erioed?
BC: Dwi’m yn rhy siŵr. Mi nai wisgo dipyn o mix and match. Dwi’n licio prynu eitemau alla’i eu gwisgo efo lot o bethau gwahanol. Ges i siaced efo patrwm sebra ychydig o flynyddoedd yn ôl, eto, o Mirsi yng Nghaernarfon, a dwi wedi byw ynddi. Dwi’n licio ei wisgo dros hwdi, ond hefyd mae hi’n siaced alla’i wisgo efo ffrog, neu sgert.
LC: Pa ddilledyn sy’n gwneud i chdi wenu bob tro?
BC: Nes i brynu siaced sequins o French Connection blwyddyn ddiwethaf, a faswn i'n dweud ei bod hi’n un o fy hoff eitemau yn fy wardrob. Pan mae’r sequins yn cael eu dal yn y golau, maen nhw’n adlewyrchu ym mhob man, a dwi wrth fy modd efo hi!
bottom of page