top of page
Ffasiwn Nadolig am byth!
Gyda hysbysebion Nadolig yn mynnu ein sylw ymhobman, mae’r tymor drud wedi ein cyrraedd ni o’r diwedd. Tra bod hanner y boblogaeth yn mwynhau’r paratoi cynnar, mae’r hanner arall yn cadw sŵn y clychau mor bell ag sy’n bosib am y tro!
Dyma’r gyfnod pan mae gwerthiant ffasiwn yn mynd drwy’r to. Mae pobl yn siopa’n wyllt am y wisg berffaith ar gyfer partïon lu ac mae talebau siopa, neu vouchers, yn ateb handi iawn i’w rhoi (a’u derbyn!) fel anrhegion Nadolig.
Mae’n hawdd mynd allan i brynu ffrog neu ddwy ar gyfer y Nadolig yma, neu wario talebau yn ddifeddwl. Ond, beth am y Nadolig nesaf? Fydd y dillad rwyt ti’n prynu eleni yn para’r flwyddyn? Sut fedri di wneud yn siŵr dy fod yn cael gwerth da am dy arian?
Prynu defnydd o safon
Un broblem gyda dillad stryd fawr ydi’r defnydd. Nid yw pob defnydd yn gyfartal o ran eu hirhoedledd! Wrth fynd o gwmpas y siopau, teimla’r defnydd. Mae defnydd o safon dda yn teimlo’n dra gwahanol i ddefnydd fydd yn colli ei siâp neu ei elastigedd yn sydyn.
Weithiau, mae hyn yn golygu prynu eitemau sydd ychydig yn fwy drud ac, yn ei dwrn, yn golygu llai o bethau. Mae hyn yn swnio’n wirion, achos mae cael mwy o bethau am lai o bres yn well, yndi? Wel, dim felly. Mae’n well prynu 5 eitem o safon sy’n para hydoedd na phrynu 10 eitem o safon sâl sy’n torri o fewn pythefnos! Mae’n well i’r blaned ac hefyd yn fwy caredig i’r ceiniogau!
Gofal yn y Golch
Beth yw’r Nadolig heb ychydig o sbarcyls? Os oes gan dy wisg ddarnau bach o gliter, mae angen bod yn ofalus! Wrth i ti fynd ati i olchi’r gwisgoedd parti, rho’r yr eitemau secwins a gliter yn y golch gydag eitemau meddal, fel dillad gwely. Paid â’u rhoi nhw i mewn gydag eitemau sydd â zips phethau felly, neu bydd bob dim yn dal yn ei gilydd a dyna ddiwedd ar y sbarcyls.
Mae’n rheol dda, hefyd, i olchi bob dim tu chwith allan. Fel’na, mae golwg y defnydd allanol yn cael ei warchod ac yn edrych mor agos i newydd â phosib am amser hir i ddod.
Trends
Er mai eleni rwyt ti’n siopa, meddylia am y blynyddoedd i ddod! Ydi’r wisg yn dilyn trend dros dro, neu ydi’r eitem yn fythol steilysh?
Ocê, dwyt ti ddim yn psychic. Fedri di ddim rhagweld os fydd trend yn para’r flwyddyn! Ond, y newyddion da ydi fod trends y Nadolig yn dueddol o fod yn weddol debyg bob blwyddyn! Melfed mewn lliwiau cyfoethog fel coch neu wyrdd, jumpsuit secwins o’r corryn i’r traed - Mae’r steil yma yn eiconig adeg y Nadolig.
Ail Law!
Mae siopa ail law wastad yn ffordd wych i ddod o hyd i wisg newydd ar gyfer unrhyw achlysur, a gan fod trends traddodiadol y Nadolig yn cael eu hailgylchu’n gyflym, mae’n syniad perffaith!
Wrth chwilota ar yr aps siopa ail law, pa frands dillad sy’n denu dy sylw? Wyt ti wedi prynu rhywbeth gan frand yn y gorffennol a’r dilledyn wedi disgyn i ddarnau? Paid â’i brynu eto yn ail law, waeth beth yw’r pris! Wyt ti wedi prynu rhywbeth o’r blaen ac wedi mwynhau teimlad y defnydd, neu wedi joio gwisgo steil penodol? Chwilia am y brand yna yn ail law!
Gall gwerthu dillad fod yn syniad da, hefyd. Oes gen ti rywbeth wnes di wisgo llynedd, ond ddim yn bwriadu ei wisgo eleni? Beth am ei uwchlwytho i ap siopa ail law a defnyddio’r arian i brynu gwisg arall sy’n newydd i ti? Dau dderyn, un garreg!
bottom of page