top of page
EICH RHESTR
CHWARAE CHI!
Dydd Miwsig Cymru
Bob blwyddyn, daw cyfle i wir fwynhau a gwerthfawrogi cerddoriaeth Cymraeg ac eleni, dethlir Dydd Miwsig Cymru ar ddydd Gwener y 10fed o Chwefror.
Mae hyn, felly, yn esgus i droi'r speakers fyny ac yn gyfle i floeddio ein hoff ganeuon dros y lle i gyd. Daw cyfle hefyd i ddarganfod cerddoriaeth newydd, i ddod o hyd i hoff artist newydd heb anghofio’r hen artistiaid sy’n ysbrydoliaeth i nifer.
Ychydig o wythnosau yn ôl, fe ddaeth darllenwyr Lysh at ei gilydd i rannu eu hoff ganeuon gyda ni er mwyn eu rhoi mewn un rhestr chwarae i ni allu rhannu a mwynhau gyda’n gilydd.
Ymysg y darllenwyr mae Mared sy’n ffan fawr o ‘Curiad y Dydd’ gan Bwncath a Begw sy’n dweud fod y gân ‘Fel i Fod’ gan Adwaith yn tiwn a hanner! Roedd Glain yn gweld hi’n anodd dewis un gân, felly cynigiodd ‘Planhigion Gwyllt’ gan Mellt yn ogystal â ‘Arian dy Rieni’ gan Diffiniad.
Cliciwch isod i wrando ar restr chwarae darllenwyr Lysh yn ei chyfanrwydd a rhowch wybod i ni pa ganeuon fyddwch chi’n ychwanegu i’r rhestr?
bottom of page