top of page
Dolig Munud Ola’
Syniadau Anrhegion ar Fyr Rybudd
Nadolig daw ei hunain, dyna yw’r hen ddywediad… Wel, mae’r Nadolig mewn ychydig o ddyddiau! Dim ots faint mae rhywun yn mynd ati i baratoi, mae’r panics munud olaf yn anochel.
1. Bisgedi
Mae snacs wastad yn mynd i lawr yn wych! A’r newyddion da ydi, dydi mynd ati i bobi bisgedi ddim mor heriol â hynny. Ar gyfer bisgedi shortbread, dim ond tri chynhwysyn sydd angen, sef blawd, menyn a siwgr. Gyda lwc, bydd gen ti’r cynhwysion yma’n disgwyl amdanat ti yn y gegin er mwyn eu taflu at ei gilydd yn ddi-ffaff. Ar ôl yr holl bobi (a glanhau’r llanast), rhaid i ti feddwl am becynnu dy anrheg. Os oes gen ti hen bot jam, fyddi di’n falch o’i gadw, achos mae’n ffordd wych o becynnu bisgedi er mwyn eu rhoi yn anrheg!
2. Pobi gyda’ch gilydd
Os nad wyt ti wedi cael amser i bobi, dyma syniad gwych i ti; cer i siopa am gynhwysion a gwahodd dy anwyliaid i bobi gyda ti! Beth am greu tŷ sinsir? Fedrwch chi gychwyn drwy greu cystadleuaeth dylunio tŷ, a dewis y gorau i’w wireddu! Os nad ydach chi’n gogyddion gwych, peidiwch â phoeni – mae modd prynu kit gyda phob dim yn y bocs! Y fisged wedi’i phobi a’i siapio’n barod, yr eisin a’r pethau da i gyd. Yr unig beth sydd angen i chi wneud ydi adeiladu ac, wrth gwrs, bwyta.
3. Lluniau wedi eu printio
Y dyddiau yma, mae pawb yn tynnu lluniau o BOB DIM. Ond, unwaith mae rhywun yn tynnu llun, mae’r llun yn hel llwch digidol ar y ffôn a byth yn gweld golau dydd. Mae mynd ati i brintio lluniau yn rhywbeth sy’n cael ei adael at ddiwrnod arall ond, flynyddoedd wedyn, maen nhw’n dal i lechu yn y ffôn. Felly, bydd pawb yn siŵr o werthfawrogi llun, wedi ei fframio’n ddel, i’w drysori ar y silff ben tân. Does dim rhaid i ti aros dyddiau ar ôl archebu lluniau dros y we, chwaith. Bellach, mae gan ambell i archfarchnad beiriant printio lluniau, felly os wyt ti’n ffeindio dy hun angen anrheg ar frys, dyma’r ateb perffaith – cofia ddewis ffrâm tra byddi di’n siopa!
bottom of page