top of page
DIWRNOD SINEMA 2023
Ar yr 2il o Fedi, 2023, fydd sinemâu ledled y wlad yn dathlu Diwrnod Sinema. Dyma ddiwrnod sy’n dathlu crefft y sinema a’r holl bobl sy’n dod a ffilmiau at ei gilydd; yr ysgrifenwyr, y cyfarwyddwyr, yr actorion a’r fyddin o bobl y tu ôl i’r llen sy’n cadw popeth i fynd.
Er mwyn dathlu’r achlysur, mae Lysh wedi creu rhestr fer o ffilmiau diweddar a hen ffilmiau sy’n siŵr o bigo’r gydwybod, gwneud i chi chwerthin ac efallai crio.
LOLA (2022)
Dyma ffilm efallai na fyddwch chi wedi clywed amdani. Yn y ffilm ‘LOLA’, byddwch chi’n mynd yn ôl i 1941 ac yn cwrdd â dwy chwaer a dyfais arbennig, sef LOLA. Gyda’r ddyfais yma, maent yn gallu edrych i’r dyfodol. Er iddyn nhw fwynhau adloniant y dyfodol i ddechrau, maent hefyd yn gallu rhagweld trychineb ofnadwy ac mae’r ddwy yn ystyried gwir rym eu dyfais.
Delwedd: © Cowtown Pictures
Chuck Chuck Baby (2023)
Mae’r ffilm yma wedi ei gosod yng Ngogledd Cymru gyda chriw o ferched sy’n gweithio mewn ffatri ieir. Yma mae Helen yn gweithio a phan mae hen ffrind ysgol Joanne, yn dychwelyd i fro ei mebyd, mae atgofion anghofiedig yn dychwelyd i flaen meddyliau’r ddwy. Trwy’r holl anawsterau, all cariad drechu popeth?
Delwedd: © Carlton Dixon / Ffilm Cymru Wales
Patagonia (2010)
Rydym i gyd yn weddol gyfarwydd gyda stori Cymry’n mynd i Batagonia a’r gymuned Gymraeg sy’n bodoli yno hyd heddiw. Yn y ffilm ‘Patagonia’, cewch ddilyn stori dwy ferch. Mae un yn dod o Batagonia i Gymru er mwyn darganfod gwlad ei hynafiaid ac mae’r llall yn mynd ar antur o Gymru i Batagonia. Un yn chwilio am y gorffennol a’r llall yn chwilio am ei dyfodol. Tybed pa ddarganfyddiadau fydd y ddwy yn dod o hyd iddynt?
Delwedd: © Rainy Day Films
Dewis y Darllenwyr
Mae pawb yn gwybod fod darllenwyr Lysh yn rai da am gynnig argymhellion! Felly, ar ein cyfrif Instagram roedd ein darllenwyr yn barod iawn i rannu eu hoff ffilmiau gyda’r genedl.
‘Mamma Mia!’ gyda’i heulwen a’i sbarcyls oedd y ffefryn gan nifer, gan gynnwys Tesni ac Efa. Rhyddhawyd y ffilm nôl yn 2008 ac mae’n deg i ddweud fod y ffilm yma yn glasur a bydd Meryl Streep ac Amanda Seyfried yn dod a gwên i ni gyd am ddegawdau i ddod!
I Tesni, roedd ‘Mamma Mia!’ yn dod yn gydradd gyntaf gyda ‘Y Llyfrgell’. Addasiad o nofel Fflur Dafydd yw ‘Y Llyfrgell’ ac mae’n dilyn stori dwy chwaer, Nan ac Ana, sy’n gweithio fel llyfrgellwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn ceisio dial am farwolaeth eu mam. Enillwyd y wobr Perfformiad Gorau mewn Ffilm Nodweddol Brydeinig yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin yn 2016, felly mae hi’n ffilm werth ei gweld.
Mae well gan Manon fynd i fyd yr animeiddiad, gyda ffilmiau Studio Ghibli yn ei diddanu. Stiwdio animeiddiaid yn Siapan ydi Studio Ghibli sy’n gyfrifol am gynhyrchu clasuron cysurus gan gynnwys Spirited Away a ‘My Neighbour Totoro’.
bottom of page