top of page

Diwrnod Cenedlaethol Podlediadau!

White Headphones

Mae yna bodlediad ar bob pwnc y dyddiau yma, does? Comedi, gwyddoniaeth, materion cyfoes – mae yna rywbeth at ddant bawb ar y we fyd-eang. Ond, wyddost ti, bod amryw lu o bodlediadau ar gael yn y Gymraeg, hefyd? Paid â phoeni am ddiffyg dewis, gan fod y sin bodlediadau Gymraeg yn tyfu bob dydd gyda phob pwnc dan haul yn cael ei drafod ymysg ffrindiau.

Pam gwrando ar bodlediad? Wel, mae gan bawb resymau gwahanol am wrando ar bodlediad – fel adloniant a difyrrwch, rhywbeth i wrando wrth gerdded neu redeg, neu rywbeth i gadw cwmni wrth yrru yn y car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwrando ar bodlediad rwyt ti’n ei fwynhau yn gallu codi dy hwyliau neu gwneud i ti feddwl mewn ffordd wahanol. Os nad wyt ti’n ffan o bodlediadau eto, mae’r byd o bodlediadau Cymraeg yn fan cychwyn gwych.

Ddim yn siŵr beth i wrando arno’n gyntaf? Dyma bigion Lysh o bodlediadau sy’n siŵr o godi gwên:

 

gwrachodheddiw.jpg

Gwrachod Heddiw
 
Wyt ti’n wrach? Na, nid “gwrach” yn yr hen ystyr ystrydebol a châs o ddynes â chroen gwyrdd sy’n achosi niwed i bawb sy’n ei chroesi. Yn hytrach, erbyn heddiw mae merched yn adennill y term i ddisgrifio nhw eu hunain – yn ferched cryf, gofalgar, hudolus.
 
Ym mhodlediad Gwrachod Heddiw, mae Mari Elin yn croesawu gwrach gwadd am sgwrs ac mae’r gyfres nesaf yn cael ei recordio mewn sesiynau byw, gydag Iola Ynyr, Anni Llyn a mwy. Ffansi ymuno? Cer draw i dudalen Instagram Gwrachod Heddiw i weld pryd mae’r digwyddiad nesaf!
 

paidymddiheurio.jpg
jomec-cymraeg.jpg

Paid Ymddiheuro
 
Wyt ti erioed wedi teimlo siom o drafod dy brofiadau mislif, neu’n teimlo fel nad oes gen ti le i sgwrsio am iechyd merched yn gyffredinol? Wel, dyma ofod saff i ferched i drafod materion iechyd heb feirniadaeth, gyda chefnogaeth, ac mae’n gyfle i’r gwrandäwr i allu gwrando ar brofiadau eraill heb ffilter.

Elin a Celyn sy’n cyflwyno’r podlediad, y ddwy yn fyfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ddwy yn angerddol iawn tuag at greu gofod diogel er mwyn trafod iechyd merched ac mae’r podlediad bellach yn ei ail gyfres. Mae’r ddwy yn cyffwrdd ar amryw o bynciau – y mislif, menopôs, STIs, endometriosis, gorbryder … Mae merched yn wynebu llu o heriau iechyd ar hyd y blynyddoedd, a dyma’r lle i ddysgu mwy.
 

Pod JOMEC
 
Oes gen ti ddiddordeb yn y maes newyddiaduraeth? Dyma bodlediad ble mae newyddiadurwyr y dyfodol yn rhoi cyfweld enwau mawr Cymru – o Mel Owen i Jess Davies a hyd yn oed Caryl Parry Jones, does neb yn saff rhag meic y myfyrwyr!

Myfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd sy’n cyflwyno’r pod, gyda myfyriwr gwahanol yn rhoi cynnig ar gyflwyno, felly mae gan bob rhifyn ei naws a steil ei hun. Mae’n bodlediad sy’n ddiddorol i bob un – y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd newyddiaduraeth ac i’r rhai sy’n joio gwrando ar sgyrsiau difyr.
 

Ffansi mwy?! Dyma rhai o bigion eraill Lysh:
 â€‹

cwins.jpg
arysoffa.jpg
cylchdro.jpg
m-spod.jpg
sgwrsio.jpg
bottom of page