top of page

Cysgu yng Nghanol Parti
gan Heledd Haf Howells

image0.jpeg

*Nodwch – mae’r darn isod yn cynnwys thema anhwylder bwyta*

Gwyneb newydd yn y sin barddoniaeth Cymraeg ydi Heledd Haf Howells, sy’n wreiddiol o Lanelli. Trwy gydol ei chyfnod yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, ymgolli ym myd y cerddi oedd ffordd Heledd o alaru marwolaeth ei mam. Ar ôl derbyn ymateb personol llwyddiannus i’w cherddi cyntaf, penderfynodd barhau i ysgrifennu i helpu gyda’i hiechyd meddwl. Pan mae Heledd yn profi eiliadau o emosiwn cryf, mae hi’n rhoi pensil ar bapur i geisio gwneud synnwyr o’r hyn sydd yn ei phen, er mwyn rhannu’r hyn gyda’i chynulleidfa i amlygu’r meddyliau hagr ac aflonyddgar mae nifer hefyd yn brwydro pob dydd.

​
Wedi iddi fod yn barddoni ers tro, mae Heledd bellach wedi cychwyn cyfrif Instagram i rannu’r holl gerddi, ac mae Lysh yn ffodus iawn i gyhoeddi un o’i cherddi am y tro cyntaf! Dyma hi, a chofiwch ddarllen pwt bach gan Heledd sy’n rhoi ychydig mwy o gefndir i’r gerdd.
​

Cysgu yng Nghanol Parti

Mae’r blas o adferiad yn
chwerw melys, a wedi’i stwffio ‘da braster.
Mae’r rholiau yn ymddangos pan dwi’n plygu,
lledr golau yn golchi dros byjamas fi.
Dwi’n pobi i fwynhad
a theimlaf fy hun yn pydru i aeddfedrwydd.
Ydw i’n gwella’n rhy gyflym?
Dylai derbyn yr anrheg o iechyd pan dwi’n
edrych ar fy nghorff yn llosgi?
“Curo neu gei di dy ddinistrio” –
Nac ydw i’n dioddef digon?
Mae tyfiant yn anodd llyncu
ond dwi’n parhau i fwyta’r byd.
Gad fy mol tyfu i gyd-fynd efo fy ymenydd,
efallai mae’r pydredd yn angenrheidiol.
Efallai bydd y pydredd yn gwneud lle am
tyfiant newydd. Llai caloriffig o boen,
mwy o wenu.
Y siawns i ddawnsio.
Rydyn ni gyd yn haeddu dawnsio

-    H.H.Howells

 

Sgwennais ‘Cysgu yng Nghanol Parti’ yng nghanol ymosodiad pryder am sut ma’ gorff fi wedi troi’n fwy blinedig wrth i mi ddioddef efo anhwylder bwyd. Fi’n berson sensitif iawn ac os dwi’n dechrau teimlo’n orbryderus am un peth, bydd gweddill y corff yn dilyn. Y tro yma meddyliais ormod am yr amser teimlais yn rhy flinedig i ddawnsio mewn parti. Mae’r ymennydd yn faes brwydr pan ddwi’n syrthio mewn i’r teimladau ‘yma a dwi methu canolbwyntio ar unrhyw beth oni bai am sgwennu. Fi’n gwybod bod angen bwyta i fyw - mae angen egni i wneud popeth dwi ishe neud. Yn anffodus mae’r afiechyd meddyliol yn actio fel bod e’n Black Belt yn Judo neu rywbeth! Mae momentau fel hyn yn fregus a dwi’n bwriadu rhannu mwy efo chi. Gobeithio bydd darllenwyr yn teimlo’n llai unig os maen nhw’n cysylltu ‘da’r gerdd. Ni gyd yn haeddu dawnsio!
 

Writing by the Water
bottom of page