top of page
Cwpwrdd Capsiwl
Sut i Steilio’n Syml
Gydag Wythnos Ffasiwn Llundain newydd fod, a thymor newydd sbon ar y gweill, mae hynny’n golygu un peth. Mae’n amser cadw’r dillad gaeaf er mwyn ffafrio gwisgoedd y gwanwyn!
Wrth gwrs, fel sy’n digwydd bob tymor, fydd trend newydd i’w ddilyn cyn pen dim. Mewn gwirionedd, erbyn i chi orffen darllen yr erthygl hon, fydd yna trend newydd i’ch diddori ac annog chi i wario’n wirion. Mae yna ffyrdd o gwmpas y gwario. Na, dim jest siopa’n ail law - mae modd siopa’n ddoeth heb fod yn chwilota drwy siopa elusen am oriau a cherdded o’r siop yn waglaw!
Wyt ti erioed wedi ceisio creu cwpwrdd capsiwl?
Mewn cwpwrdd capsiwl mae dillad “doeth”. Dillad diamser sydd ddim yn dilyn trend penodol, eitemau sy’n gallu creu gwisgoedd amrywiol a darnau o safon uchel fel eu bod yn cadw eu cyflwr yn dda am flynyddoedd i ddod.
Mae yna sawl mantais wrth adeiladu cwpwrdd capsiwl. Gyda llai o ddillad, rwyt ti’n arbed amser trwy allu dewis gwisg gyfan yn gynt, ac hefyd yn treulio llai o amser yn siopa, golchi a chadw trefn ar yr holl ddillad. Rwyt ti hefyd yn fwy tebygol o edrych ar ôl dy ddillad, yn cymryd mwy o ofal wrth olchi ac yn eu trwsio pan fo angen. Yn y pen draw, mae creu cwpwrdd capsiwl yn gallu arbed arian gan fod buddsoddi mewn dillad o safon yn golygu nad oes dim siopa am eitemau newydd yn dragwyddol. Cofia, dydi creu cwpwrdd capsiwl ddim yn golygu mynd ati i siopa am eitemau newydd yn syth bin (sori!). Edrycha yn dy wardrob presennol i ddod o hyd i ddillad fydd yn addas i dy gwpwrdd capsiwl.
Am sut fath o eitem ‘da ni’n sôn? Wel, mae hynny’n ddibynnol ar dy ffordd o fyw di gan fod steil pawb yn wahanol. Fe glywi di sawl un yn sôn am fuddsoddi mewn blazer wedi ei deilwra mewn lliw niwtral, fel dy fod yn gallu ei wisgo ar gyfer sawl achlysur - i’r gwaith neu allan gyda’r gens. Os nad wyt ti’n gweld dy hun yn gwisgo blazer yn y dyfodol agos, paid â’i ystyried! Efallai fod siaced denim yn fwy o dy steil di, neu hyd yn oed siaced lledr. Mae’n bwysig fod dy gwpwrdd capsiwl wedi ei deilwra i ti, felly gofala fod gen ti ddarnau allweddol, fel trowsus a chrysau T, byddi di’n mwynhau eu gwisgo.
Wrth ddewis dy ddarnau allweddol, mae’n bwysig cadw lliwiau mewn golwg. Ceisia gadw’r dewis o liwiau yn weddol niwtral, fel eu bod yn gallu cael eu pario’n hawdd gydag amrywiaeth o ddarnau eraill. Paid â phoeni, dydi hyn ddim yn golygu wardrob di-liw a diflas! Mae’n golygu, os wyt ti’n dod ar draws eitem yn y siop elusen neu ar ap gwerthu dillad ail-law, mae gen ti fwy o siawns ei fod o’n mynd i gyd-weithio gyda dy gwpwrdd capsiwl. Does dim byd gwaeth ‘na syrthio mewn cariad gyda siwmper hyfryd, ond sylweddoli nad oes gen ti ddim byd i gyd-fynd! Gyda chwpwrdd capsiwl, rwyt ti’n barod am unrhyw beth!
Delwedd: © Modern Minimalism
bottom of page