top of page

Croeso i Faldwyn!

Urdd.png
Urdd.png

Ar lannau’r Afon Efyrnwy, mae pentref bychan wedi bod yn aros yn eiddgar am gyrhaeddiad Mr Urdd a’i griw. Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Meifod am y tro cyntaf ers 1988, felly ar ôl dros 36 mlynedd o aros mae’r ardal wledig hon ym Maldwyn yn hen barod am ddathliad! Caeau y tu allan i’r pentref bydd cartref yr ŵyl am wythnos gyfan – ac mewn ardal mor eang, ble mae dechrau’r crwydro a’r darganfod?! Wel, dyma gwpwl o syniadau:
 

iStock-507566590.jpg

Castell Powys

Hoff o hanes? Tua 20 munud i ffwrdd o’r maes mae Castell Powys, castell sy’n dra gwahanol i’r arfer! Na, does dim cerrig llwyd a thyrrau oeraidd gyda grisiau maith sy’n bygwth dy faglu. Yn hytrach, mae Castell Powys wedi ei adeiladu o frics coch, bron nad yw’n edrych fel castell yng Nghymru. Adeiladwyd Castell Powys yn y 13eg ganrif gan Gruffydd ap Gwenwynwyn, ei ddinistrio yn 1274 gan Llywelyn ap Gruffydd a’i ailadeiladu nes ymlaen gan Gruffydd o Bowys. Braidd yn ddramatig, doedd?! Beth bynnag, nid dyna ddiwedd y ddrama. Roedd Castell Powys yn destun ffrae a rhyfela am flynyddoedd, ond bydd rhaid i ti ymweld â thir y castell i ddarganfod mwy!

 

Llyn Efyrnwy

Mae gan Lyn Efyrnwy, neu Lyn Llanwddyn, hanes maith. Wedi ei leoli tua hanner awr o’r maes, heddiw mae’n ymddangos fel tirlun hardd, â byd natur wrth graidd yr olygfa. Ond, mae gan y llyn yma hanes dwys. Cronfa ddŵr sydd yma, wedi ei chreu dros bentref Llanwddyn gynt, er mwyn cynnal cyflenwad dŵr i ddinas Lerpwl ac, ar y pryd, dyma oedd cronfa ddŵr fwyaf Ewrop. Cafodd y pentref cyfan ei ad-leoli gan gadw ei enw gwreiddiol. Bellach, mae’r llyn a’r ardal gyfagos yn bwysig iawn i fyd natur fel Gwarchodfa Natur y RSPB ac mae’n lleoliad poblogaidd ar gyfer cerdded, beicio a sawl gweithgaredd dŵr. Serch hynny, mae’n lleoliad hanesyddol o bwys i’r Cymry - y gronfa ddŵr gyntaf ar dir Cymru er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr i leoliadau yn Lloegr.

 

iStock-1276152660.jpg
iStock-1991161739.jpg

Pistyll Rhaeadr

Os wyt ti’n hoff o fyd natur, fyddi di’n siŵr o fwynhau taith gerdded i Bistyll Rhaeadr. Os wyt ti awydd cymryd saib i ffwrdd o’r maes am ddiwrnod tawel, dyma le perffaith ar gyfer llonyddwch. I’r gogledd o’r maes ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant mae Pistyll Rhaeadr. Dyma ble mae dŵr Afon Disgynfa yn disgyn yn danbaid i Afon Rhaeadr o oddeutu 40 medr o uchder. Gellir parcio’n agos i’r rhaeadr ei hun, gyda sawl llwybr cerdded o amgylch yr ardal. Mae sôn hefyd fod caffi gerllaw, a beth gwell ‘na phaned a rhaeadr!

Sycharth

Mae’n debyg dy fod wedi sylweddoli erbyn rŵan fod gan ardal Maldwyn gyfoeth hanesyddol sylweddol! Wel, dyma un arall i ti. Oddeutu 20 munud i’r gogledd o faes yr Eisteddfod mae Sycharth, oedd yn gartref i neb llai nag Owain Glyndŵr. Does dim adeilad i’w weld erbyn heddiw, dim ond olion ac mae galw wedi bod ar Lywodraeth Cymru i warchod y safle hwn a’i le yn hanes Cymru.

 

bottom of page