top of page
Cariad, Cyfrinachau a Ffrindiau Ffug
Disbylion B gan Rhiannon Lloyd Williams
Pwy sydd ddim yn joio darllen am love triangles?
Boed hynny’n Peeta, Katniss a Gale o’r Hunger Games, Harry, Hermione, a Ron o Harry Potter, neu’r OG a’r clasur Edward, Bella a Jacob o Twilight (tîm Edward through and through gyda llaw!), mae’r trope triawd yn boblogaidd iawn.
Ac mae’r trope yma hefyd yn rhan o blot fy nofel gyntaf, Disgyblion B.
Dilyna’r nofel dri disgybl – Buddug, Ben a Betsi – sy’n derbyn pwerau annisgwyl ar eu diwrnod cyntaf ym Mlwyddyn 8 ar y trydydd o Fedi, 2033. Ond mae’r nofel yn fwy na phobl ifanc yn arbrofi gyda’u pwerau newydd. Mae’r nofel hefyd yn canolbwyntio ar y gyfrinach sy’n clymu’r tri chymeriad gyda’i gilydd – tri chymeriad na fyddai BYTH yn cymysgu fel arall! A dyna sy’n ysgogi trope Disgyblion B – triongl sy’n edrych fel hyn:
Pam fod Betsi, y ferch boblogaidd, wedi penderfynu bwlio Buddug, o bawb, ers eu diwrnod cyntaf ym Mlwyddyn 7? Beth oedd yn ysgogi ei chasineb? Oes modd adeiladu pontydd gyda rhywun oedd yn dy dargedu ac yn dy fychanu? Ac ar ben hynny, sut mae Ben yn teimlo? Ydye’n hoffi hoffi Buddug neu ydy e’n hoffi hoffi Betsi, tybed?
​
Dyma rai o’r cwestiynau sy’n deillio o love triangle y nofel, ac mae’r rhain yn dod i’r amlwg wrth i’r tri ddysgu am eu pwerau newydd a’u pwrpas. Maen nhw hefyd yn cwestiynu eu cefndir, eu teimladau a’u hunaniaeth.
​
Ond sut mae’r disgyblion arferol yn ymdopi â bod yn anarferol? A fyddai’n well ganddynt anwybyddu eu dyletswyddau a boddi eu gofidiau mewn partïon, ffrindiau ffug a chariadon newydd?
​
Buddug, er syndod i bawb, sy’n meistroli ei phŵer gyflymaf, ac am y tro cyntaf yn ei bywyd mae hi’n fwy pwerus na Betsi. Ond a fydd hi’n dial ar Betsi am ei bychanu a’i brifo dros y blynyddoedd? Neu a fydd hi’n ufuddhau i rybuddion pendant y prifathro pwerus, Mr Brown? Nid ydynt i fod i ddefnyddio’u pwerau tu hwnt i’w hymarferion yn y Gampfa Goll oni bai bod rhywun mewn perygl...
​
​Dyluniwyd y nofel fel petai yno ddisgybl wedi ei darllen yn barod ac wedi sgriblo nodiadau drosti. Pwrpas y sylwadau bachog yma yw cynnig mewnwelediad dyfnach i deimladau’r cymeriadau – a’r love triangle! Mae’n gyfle hefyd i egluro ystyr ambell air heriol achos, yn anffodus, does dim ffasiwn beth â rizz, suss a delulu yn y Gymraeg! O.M.B (O Mam Bach) yw’r peth agosaf at slang boblogaidd yn y nofel hon – sef un o hoff ymadroddion Sophie, ‘ffrind’ Betsi.
Dwi’n gobeithio bydd pobl ifanc heddiw yn gallu uniaethu â’r Disgyblion B wrth iddynt wynebu problemau arferol ar eu taith i fod yn anarferol – bwlio, tor calon, gwaith cartref, athrawon cas, y misglwyf, cwympo mas gyda ffrindiau ... a gwneud ffrindiau newydd. Ond y prif gwestiwn yw, a fydd y Disgyblion B yn llwyddo i anghofio am eu problemau er mwyn achub Ysgol Tir Na Nog? Darllenwch i ddod o hyd i’r ateb!
bottom of page