top of page

Canu, Cyfieithu a Chyfoethogi’r Gymraeg!

Untitled design (15).png
MEGAN-2.jpg

Enw fi ydy Megan Haf ac rwy’n tarddu o bentref bach ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Er fy mod i’n fyfyrwraig y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, nid hynny yn unig sydd yn llenwi’n dyddiau. 

Ar hyd y blynyddoedd, rwyf bendant wedi dysgu am bwysigrwydd seibiau ac am gymryd yr amser i wneud yr hyn sydd yn tawelu’ch meddwl. Ac felly, ymhlith y traethodau a darlithoedd i gyd, dyma fi’n troi at ganu, perfformio a chyfieithu’n greadigol.

Dechreuais i ganu cyn gynted a gallwn siarad, roedd hi’n amhosib fy nghadw i’n dawel o’r cychwyn cyntaf (yr un hen stori heddiw!). Does gen i ddim un atgof o’m plentyndod lle’r oedd yr awydd i fod ar lwyfan ddim yn bresennol o fewn fy nghymeriad.

 

Bellach, wrth i mi gamu i fy ugeiniau, rwyf wedi sefydlu tudalen Instagram a Facebook er mwyn lledaenu fy nghanu, sef ‘Cerdd Megan Haf’.  O’r cyngherddau elusennol, i'r priodasau ac angladdau… roedd yr amserlen yn prysuro a’r milltiroedd yn pentyrru ar fy nghar bach gwyn. 

Gwerthfawrogaf bob cynnig i ganu mewn digwyddiad a prin iawn yw’r pethau sy’n rhoi’r un fath o hapusrwydd i mi.  Rwyf wrth fy modd yn canu caneuon Disney, caneuon poblogaidd a chaneuon Theatr gerddorol. Un o’m ffefrynnau ydy ‘Hopelessly Devoted to You’ o’r ffilm Grease!

Yn ogystal â chanu, treuliaf lawer o’m hamser yn cyfieithu caneuon o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac er nad ydw i’n arbenigwr ar yr iaith, mae’r astudiaethau gradd yn fy ngalluogi i gyfieithu’n gywir ac yn groyw.

 

Microphone
MEGAN-1.jpg

Amlygir elfennau o’m diddordeb yn y maes cyfieithu o fy harddegau ifanc. Yn ystod blynyddoedd astudio ar gyfer TGAU, roedd cyfieithu caneuon yn ‘hobi’ blaenllaw oedd yn ymddwyn fel dihangfa o straen arholiadau. Fe wnes i sylweddoli’n gyflym fod hynny’n ffordd i fod yn greadigol a chymryd saib o’r astudiaethau, ond ar yr un pryd cyfoethogi’n dealltwriaeth o’r iaith. Dyma enedigaeth fy angerdd am y Gymraeg, ac mae fy nyled i’n fawr i’r cyfieithu creadigol am y gafael ar sgiliau iaith sydd gen i heddiw. Wrth adfyfyrio yn ôl ar y cyfnod hwnnw, roedd y mwynhad llwyr ges i o gyfieithu’r caneuon Eisteddfod Ysgol ac yn y blaen, yn rhagarwyddo’r hyn oedd i’w ddod yn y dyfodol i mi. Hynny yw, canu’r un cyfieithiadau dyfeisiais nôl ym mlwyddyn 10 i gynulleidfa o gannoedd 5 mlynedd wedyn. 

Bwriadaf barhau i adeiladu ar y busnes bach yma, wrth droedio tir newydd a chyflwyno sesiynau canu i ysgolion cynradd! Gobeithiaf fydd yr antur newydd yma yn fy ngalluogi i ddysgu plant am bwysigrwydd canu ac am bwysigrwydd yr iaith.

Fe allwch chi ddod o hyd i’m tudalen canu ar Instagram
@Cerddmeganhaf neu ar Facebook o dan ‘Megan Haf’. Dilynwch a hoffwch os oes awydd gennych glywed ychydig o’r fideos sydd gen i!

 

bottom of page