top of page

BLWYDDYN O
GERDDORIAETH

03.jpg

Cymru; gwlad y gân. Dyma ddywediad sydd wedi rhoi Cymru ar y map ers canrifoedd a mwy! Ond eleni, mae’r hen ddywediad yn fwy addas nag erioed. Mae ein gwyliau arferol, yr Eisteddfodau, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, ac yn y blaen, yn dychwelyd unwaith eto ond, yn ychwanegol i’r holl gyffro yna, mae sêr enwog y byd yn cyrraedd ein gwlad fechan ni am haf o fiwsig arbennig.

Mae brenin roc, Bruce Springsteen, wedi bod yn ymweld â’r brifddinas ac mae pawb yn edrych ymlaen at ymweliad brenhines pop, Taylor Swift, sydd yn siŵr o ddenu miloedd ar filoedd i ddinas Caerdydd. Ddim yn Swiftie? Paid â phoeni! Fydd Anne Marie a Tom Grennan yn perfformio yng Nghastell Caerdydd ym mis Gorffennaf. Ddim yn ffan o pop?  Ym mis Mehefin, cei fwynhau perfformiad gan Foo Fighters ac ym mis Awst mae’n amser am Billy Joel. Mae yna rywbeth i bawb eleni!

 

Teimlo’r FOMO

Rhwng bob dim, mae’n debyg fydd eleni yn flwyddyn fydd pawb yn siarad amdani am sbel hir i ddod. I ddweud y gwir, mae’n teimlo bach yn ormod i allu gwneud bob dim! Hawdd yw mynd i deimlo pwysau FOMO (sef Fear Of Missing Out) pan fyddwn ni’n methu allan ar fynd i gig, yn enwedig wrth weld lluniau o gigs anhygoel ym mhob twll a chornel y cyfryngau cymdeithasol. Er bod pawb yn gwybod fod yr hyn ‘dan ni’n weld ar y cyfryngau cymdeithasol yn gipolwg sydyn ar beth sy’n mynd ymlaen yn y byd ac ym mywydau unigol ein ffrindiau, am ryw reswm ‘dan ni gyd yn anghofio hyn yn syth pan fyddwn ni’n scrolio ar ein ffonau. Mae mynd i bob gig yn amhosib, yn ddrud ac yn gofyn am lot o amser rhydd! ‘Dan ni gyd yn methu allan o bryd i’w gilydd ac yn teimlo’r FOMO - mae pawb yn yr un cwch!

 

01.jpg
02.jpg

Ffasiwn yn erbyn synnwyr cyffredin

Os fyddi di’n mynychu gŵyl neu gig, mae yna lot i’w wneud er mwyn paratoi. Y wisg yw’r cam cyntaf fel rheol ac mae dod o hyd i falans rhwng bod yn gyffyrddus ac edrych yn ffab yn her a hanner. Wrth gwrs dy fod ti eisiau edrych ar dy orau - dyma gyfle prin i fynd amdani go iawn gyda gwisg hollol anhygoel a dathlu ymysg dy debyg! Serch hynny, mae yna gamau rhwydd i’w cymryd sy’n sicrhau ffasiwn ryfeddol wrth ffafrio cyfforddusrwydd.

Mewn gig, yn arbennig y tu allan yn yr haf, fyddi di’n boeth ac mi fyddi di’n oer. Yng nghanol yr holl ffans mae’n gallu bod yn hynod o boeth ond eto ar y ffordd adref wedi iddi dywyllu, fyddi di’n teimlo’r oerni! Beth am guradu gwisg sy’n cynnwys haenau, i ti allu eu tynnu nhw fel ti’n teimlo gwres y dorf ac i ti lapio’n gynnes nes ymlaen yn y noson?

Chwedl bur yw bod yr esgidiau hyfrytaf yn anghyffyrddus - mae’r rhai sy’n dweud fod rhaid dioddef er mwyn ffasiwn yn ANGHYWIR! Beth yw pwynt gwisgo esgidiau hardd sydd â’r potensial i chwalu mwynhad y noson?! Drwy gydol y noson, byddi di’n cerdded ac yn sefyll, efallai yn dawnsio rhywfaint, felly cer am esgidiau fflat, trainers neu boots ac adeilada wisg o’u cwmpas. Dyma yw cyfrinach mwynhau gig - rhanna’r gyfrinach ymhellach!

 

bottom of page