top of page
Beth yn union ydi Greenwashing?
Wrth droedio’r stryd fawr yn chwilio am wisg newydd, mae’n bosib fod cynaladwyedd ym mlaen dy feddwl di. Mae edrych ar ôl y blaned yn holl bwysig i bob un ohonom, ac mae’n ddyletswydd i ni gyd i wneud y pethau bychain er mwyn edrych ar ôl ein byd. Lwcus, felly, fod sawl siop ffasiwn gyflym bellach yn cynnig casgliadau o ddillad ‘cynaliadwy’ gyda labeli brown yn nodi eu bod wedi cael eu creu gyda defnydd sydd wedi’i ailgylchu, neu weithiau hen boteli plastig hyd yn oed. Gwych! Mae hyn yn datrys y broblem o ffasiwn gyflym felly, dydi? Wel, dim cweit.
Wyt ti wedi clywed am y gair ‘greenwashing’? Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan mae cwmni mawr yn defnyddio’r syniad o gynaliadwyedd, gan adnabod y galw am gynnyrch cynaliadwy a chymryd mantais, heb ymrwymo’n llawn i wireddu unrhyw nod cynaliadwyedd. Yn y bôn, mae greenwashing yn golygu camarwain y cwsmer.
Mae’n bwysig nodi nad ydy cwmnïau sydd yn ymarfer greenwashing yn dweud celwydd wrthat ti, ac fel arfer mae’r labeli yn hollol gywir. Efallai fod defnydd y dilledyn wir wedi cael ei greu mewn ffordd gynaliadwy. Tyrd i ni edrych ar ddefnydd o’r enw viscose fel enghraifft. Oes gen ti ddillad sydd wedi eu creu o viscose? Mae’n ddefnydd sy’n ysgafn, ac weithiau mae ganddo sglein. Am y rheswm yma, mae’n cael ei ddefnyddio yn lle sidan fel opsiwn rhatach. Mae’n cadw siâp a lliw yn dda, hefyd. Mae’n ymddangos i fod yn ddefnydd anhygoel, dydi? Mae rhai yn ystyried viscose fel defnydd cynaliadwy gan ei fod wedi cael ei greu gyda pulp pren, sy’n ddeunydd adnewyddadwy (renewable) a bioddiraddadwy (biodegradable). Mae hyn yn golygu na fydd y dilledyn yn bodoli am byth mewn safle tirlenwi fel y bydd siwmper polyester. Mae viscose bron yn edrych yn rhy wych i fod yn wir!
Wel, mae o’n rhy wych i fod yn wir (sori!). Oes, mae gan viscose y potensial i fod yn gynaliadwy, ond er mwyn cyrraedd y gofyn am y defnydd a’r dillad mae angen i filoedd ar filoedd o goed i gael eu torri. Fel arfer heb fath o system ail-blannu coed.
Felly, os mae label dilledyn yn nodi ei fod yn un cynaliadwy, wedi ei wneud o bren, yn fioddiraddadwy ac yn hollol ffantastig, dydi’r label fel arfer ddim yn rhoi’r darlun llawn o’r difrod sydd wedi ei greu cyn i’r dilledyn gyrraedd llawr y siop. A dyna, felly, ydi greenwashing.
Pam fod greenwashing yn broblem? Mae chwarae rhan mewn arbed cynhesu byd eang yn bwysig. Efallai dy fod di’n gwneud llu o bethau bach; ailgylchu, llenwi potel dŵr yn lle prynu un blastig untro neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml a gadael y car adref. Mewn gwirionedd, mae cwmnïau sy’n ymarfer greenwashing yn tanseilio ein hymdrech ni i gyd i edrych ar ôl ein planed. Iddyn nhw, elw sy’n bwysig.
Mae’n rhwystredig iawn, oherwydd beth arall ydan ni i fod i wneud? Mae pawb angen dillad, ac wrth drio siopa am ddillad ‘cynaliadwy’ mae cwmnïau ffasiwn gyflym yn ein twyllo ni! Mae pob cam ymlaen yn teimlo fel cam yn ôl, ac mae dewis peidio siopa am ddillad bron yn amhosib.
​
Does dim ateb pendant i’r cymhlethdod yma, ond fel yr her newid hinsawdd yn ei chyfanrwydd, mae gwneud y pethau bach yn gallu gwneud byd o les. Mae dewis peidio â phrynu dilledyn newydd yn un weithred ac mae dewis prynu gan gwmni annibynnol a lleol yn weithred arall. Os wnawn ni gyd yr un peth, pwy â ŵyr, efallai fydd greenwashing yn perthyn i hanes mewn dim!
​
bottom of page