top of page

Arfer ag Arian

Adult Students

"Dydi’r ysgol ddim yn dysgu pethau defnyddiol. Pryd dwi am ddefnyddio theorem Pythagoras mewn bywyd go iawn?!"

Sawl gwaith wyt ti wedi cwyno am hyn, gyda dy ffrindiau i gyd yn cytuno?Achos pryd ddaeth y sgìl o allu labelu cell planhigyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd ddim yn wyddonydd? PAM nad ydyn ni’n dysgu am bethau sydd yn mynd i fod o ddefnydd go iawn i ni, fel sut i dalu trethi a sut i osod cyllideb bersonol er mwyn osgoi’r arfer o daflu arian i ffwrdd yr eiliad mae diwrnod cyflog yn cyrraedd?

Mae’n teimlo fel ein bod yn cael ein gadael ar ôl pan mae’n dod i bethau felly. Er bod y pethau yma’n holl bwysig – gyda rhai yn taeru eu bod nhw’n bwysicach na’r hyn sy’n cael ei addysgu mewn ystafell ddosbarth arferol – mae’n rhaid i ni fynd ati i ddysgu’r sgiliau hanfodol yma ein hunain. Gall dod i’r arfer â thechnegau ariannol syml wneud byd o wahaniaeth, a fydd ‘ti’ y dyfodol yn siŵr o ddiolch i ti (ac i Lysh, wrth gwrs).

Reit, tyrd i ni fagu arferion ariannol da gyda’n gilydd. Barod?

 

1. Angen yn erbyn eisiau

Pan mae’n dod i arbed arian, rhaid cysidro un peth syml gyda phob gwariant – ydw i ANGEN hwn, neu jyst EISIO hwn? Mae’r ddau beth yn gwbl wahanol! Ffansi hwdi newydd? Wel, oes gen ti hwdi tebyg yn barod? Ydi dy wardrob di’n gallu ymdopi gyda rhywfaint mwy, neu efallai fod modd rhoi’r hwdiyn ôl ar y rac ddillad y tro hwn? Weithiau, rwyt ti wirioneddol angen pethau, fel backpack newydd gan fod un twll yn ormod yng ngwaelod y bag, ac mae’n hen bryd am un newydd sbon. Does dim angen cwtogi pob un gwariant, dim ond cymryd saib bach cyn neidio am y cerdyn talu!
 

2. Cuddio dy arian rhag dy hun!

Swnio’n od, dydi?! Pam fyddet ti eisiau cuddio dy arian dy hun RHAG ti dy hun? Wel, mae yna reswm syml. Os nad wyt ti’n gweld yr arian, dwyt ti ddim yn mynd i wario’r arian. Mae creu cyfrif arbed arian, neu savings account, yn golygu dy fod yn gallu rhoi arian i un ochr, fel gwiwer yn cuddio cnau. Does dim rhaid i hwn fod yn swm mawr o gwbl – magu’r arfer sy’n bwysig. Rho bunt neu ddau i ffwrdd bob wythnos a buan daw’r cyfanswm yn un digon symol.
 

British Pound Notes
Credit Card

3. Paid mynd i banics - a siarada

Mae’n hollol bosib daw amser ble rwyt ti angen arian, hynny ar frys. Boed o’n fil annisgwyl neu’r angen am deiars newydd i’r car, mae dod wyneb yn wyneb â her ariannol yn deimlad ych-a-fi. Wel, ychydig bach mwy nag ych-a-fi rili, achos mae o’n gallu dy lorio di, ac mae yna deimlad o siom ac embaras. Mae’r ych-a-fi yn cael ei ddyblu achos mae dynolryw wedi creu rhyw reol anweledig sy’n atal pobl rhag siarad am arian, ac mae rhywun yn tueddu i gadw’r problemau i’w hunain. Ac, ocê, y peth olaf ddylet ti ddweud wrth rywun sy’n poeni ydi i beidio â phoeni, ond hei – paid â phoeni! Mae yna nifer fawr iawn o bobl bob dydd yn cael eu heffeithio gan broblemau ariannol. Rwyt ti’n siŵr o fod yn adnabod pobl o bob oed sydd wedi bod drwyddi fwy nag unwaith, ond eu bod nhw’n cadw pethau’n dawel. Dwyt ti ddim ar ben dy hun, ac mae’n rhaid i ni gyd weithio tuag at normaleiddio siarad am arian.


Dydi’r camau bach yma ddim yn mynd i newid dy fyd yn syth. Mewn gwirionedd, efallai na fyddhyn yn dwyn ffrwyth am ddegawd neu ddau! Dim ond magu arfer dda pan mae’n dod i arian sydd ei angen am y tro, a dysgu’r sgiliau i ti dy hun. Achos, os nad ydyn nhw wedi dysgu hynny i ti yn yr ysgol, mae’n amser tyrchu llewys ac addysgu dy hun!

 

bottom of page