Rhwng Dau Glawr | Legendborn
Legendborn
Awdur: Tracy Deonn
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Pris: £8.99
Adolygiad gan Nia Morais
“A flying demon feeding on human energies.
A secret society of so-called “Legendborn” that hunt the creatures down.
A mysterious mage who calls himself a “Merlin” and who attempts - and fails - to wipe Bree’s memory of everything she saw.”
Mae Legendborn gan Tracy Deonn yn llyfr ffantasi i oedolion ifanc sy’n dilyn stori Bree, merch 16 oed sy’n dechrau coleg yn gynnar ar ôl colli ei mam. Ar ddechrau’r tymor yn UNC- Chapel Hill yn North Carolina, mae Bree yn amau fod y stori am farwolaeth ei mam yn anghywir, a bod ganddi gyfrinach fawr i’w ddadorchuddio.
Mae Bree yn benderfynol o ddarganfod be ddigwyddodd i’w mam, felly mae hi’n ymuno a chymdeithas gyfrinachol o’r enw The Order of the Round Table. Yn fuan iawn, mae hi’n darganfod fod y gymdeithas hon yn defnyddio hud a lledrith i frwydro yn y erbyn creaduriaid uffernol a bod rhyfel rhwng y bydoedd ar fin dechrau. Felly, pa mor bell ydy hi’n fodlon mynd er mwyn darganfod y gwir am ei mam?
“Bree, short for Briana. Pushy and stubborn. She doesn’t accept what she sees with her own eyes, won’t accept what she hears with her own ears…Or at least, that’s what she’d like me to believe.”
Mae’r stori yma’n hynod o gyffrous ac yn darllen yn gyflym iawn am lyfr bron 500 o dudalennau. Mae’n son mewn ffordd sensitif ac agored am golled a hiliaeth systemig. Ond un peth diddorol arall am y llyfr yma yw ei ddefnydd o’r iaith Gymraeg.
Mae’r defnydd o hud a lledrith yn y llyfr yn ddiddorol iawn i mi. Yn gyntaf, mae gyda ni’r Order of the Round Table, sy’n dilyn cod cafodd ei greu gan y Brenin Arthur - mae’r swynion i gyd yn y Gymraeg. Mae’r awdur Tracy Deonn yn esbonio ar ddiwedd y llyfr ei bod wedi gweithio gyda hanesydd Cymraeg, Dr. Gwilym Morus-Baird, er mwyn creu cyfieithiadau Cymraeg ar gyfer y swynion ac am yr hanes canoloesol. Nid dyma’r tro cyntaf fi ‘di gweld y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y modd yma mewn llyfr ffantasi, ond dyma’r tro gyntaf fi ‘di gweld e’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd drylwyr.
“The Order and Vassal colonisers were a blended bunch…But sixth-century Wales is Arthur’s birthplace, so Welsh was the Order’s first language.”
Mae’n neis gweld y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sydd ddim yn sarhaus - fi’n siŵr eich bod chi i gyd wedi gweld y jôcs ar TikTok am ba mor amhosib ydy ynganu geiriau Cymraeg, neu bobl yn cwyno am orfod dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol. Yn ddiweddar fi ‘di bod yn addasu drama Shakespeare mewn i’r Gymraeg, ac yn eironig iawn, mae’r addasiad Gymraeg yn lot haws i’w ddeall na’r Saesneg gwreiddiol. Ydy, mae’n iaith hen iawn, gyda chysylltiadau i chwedl a chan, ond mae hefyd yn gallu bodoli yn y ganrif yma!
“I feel the presence of death in my chest. My mothers, my grandmother’s, my great-grandmother’s. Now that I hold all of that death, how can I just accept it?”
Serch hynny, odd e’n rili ddiddorol i mi fod gan y Round Table cysylltiad clir gyda chaethwasiaeth. Mae’r gymdeithas hefyd yn cael ei gyferbynnu gyda ffurf arall o hud a lledrith, sef “rootcraft” neu “root”.
Cafodd y gangen yma o hud a lledrith ei hysbrydoli gan hanes pobl ddu yn America, a hanes “rootwork”, sydd hefyd yn cael ei alw’n “hoodoo” neu “conjure”. Mae “root” yn gweithio’n wahanol i’r swynion Cymraeg yn y nofel - mae “root” yn blaenoriaethu’r cyndeidiau, gan fenthyg egni yn unig.
Mae hyn yn ffordd dda iawn o ddangos bod dau ochr i hanes, a’n atgoffa ni bod dal angen cydnabod dylanwad Cymru ar y fasnach caethweision trawsatlantig. Mae hyn hefyd yn clymu mewn i’r sgyrsiau am annibyniaeth - ydyn ni’n cael disgrifio Cymru fel un o drefedigaethau Lloegr, neu ydy hyn yn amharchus i’r trefedigaethau go iawn wnaeth frwydro am annibyniaeth yn ein herbyn ni? Wnaeth y llyfr godi llawer o gwestiynau diddorol imi, a fydda i’n bendant yn pendroni am amser hir.
“Growing up Black in the South, it’s pretty common to find yourself in old places that just…weren’t made for you…and you just have to hold that knowledge while going about your business.”
Mae Bree yn dioddef hiliaeth yn aml yn y llyfr, ac mae Deonn yn disgrifio’r rhwystredigaeth hwn mewn ffordd gyfarwydd iawn. Mae’r profiadau yma yn cymysgu gyda’r golled mae Bree yn dioddef trwy gydol y nofel ac yn creu teimlad cryf o ddicter. Mae Bree yn ceisio’n galed i’w hamddiffyn ei hun rhag dioddef rhagor o boen, ac fel menyw ifanc roedden i’n gallu uniaethu yn llwyr. Mae’r nofel yma’n wych ar gyfer pobl ifanc sy’n teimlo’r anobaith o fyw gydag anghyfiawnder, ac o’n i fethu aros i ddarllen mwy am Bree yn darganfod mwy am ei phŵer - nid jyst pŵer hudolus, ond y pŵer sy’n tyfu pan mae merched ifanc yn cydnabod eu cryfder. Mae Deonn yn profi i’r gweisg fod le pendant i ferched Ddu mewn ffantasi.
Byswn i’n argymell y nofel hon i unrhyw un sy’n caru systemau hudolus, brwydrau cyffrous, a sgyrsiau dwfn am iechyd meddwl ac anghyfiawnder. Fi methu aros am yr un nesaf yn y gyfres!