top of page

Iechyd a Lles | Newid Hinsawdd: Edrych yn Bositif

Iechyd a Lles | Newid Hinsawdd: Edrych yn Bositif

Mae argyfwng newid hinsawdd yn bwnc llosg ar y newyddion yn aml iawn. Gyda newyddion mor frawychus, mae’n hawdd iawn teimlo’n ddigalon neu’n ofnus. Weithiau, rydym yn teimlo fel nad oes dim byd allwn ni ei wneud i helpu. Mae’n deg i ddweud nad ydi ton ar ôl ton o newyddion drwg o les i neb.

Ar ôl holi ar ein cyfrif Instagram, dywedodd 62% o’n dilynwyr eu bod yn poeni’n fawr iawn am yr argyfwng newid hinsawdd gyda 38% yn nodi eu bod yn poeni rhywfaint.

Wyddoch chi, er bod y rhagolygon yn gallu edrych yn llwm ar adegau, mae yna sawl stori o lawenydd mawr. O robots i forwellt, mae yna sawl prosiect uchelgeisiol sy’n camu’n nes at ddatrys yr heriau hinsawdd.

Siarc Sbwriel
Ffaith drist iawn yw bod nifer fawr o greaduriaid y môr yn bwyta micro plastics ar ddamwain. Ond wyddoch chi, mae yna un siarc sy’n bwyta dim byd ond sbwriel?

Wel, nid siarc go iawn yw’r creadur yma, wrth gwrs. Robot yw’r siarc sbwriel, neu’r WasteShark, sy’n mynd ati i hel y sbwriel sy’n llygru afonydd. Cafwyd un robot ei osod yn Canary Wharf, Llundain yn gynharach yn y mis. Mae’r robot yn mynd ati i lanhau am oddeutu 8 i 10 awr ac mewn un pryd mawr mae’n gallu stumogi tua 21,000 o boteli plastig!

Adfywiad y Barriff Mawr
Rydym yn gyfarwydd iawn gyda sut ddylai riff cwrel edrych, diolch yn rhannol i ffilmiau fel Finding Nemo! Ond, rydym yn gyfarwydd iawn hefyd gyda’r ffaith fod y Barriff Mawr (neu’r Great Barrier Reef) draw yn Awstralia wedi dirywio’n sylweddol o ganlyniad i lygredd, newid hinsawdd ac ambell i greadur sy’n niweidio ei gymdogion.

Llynedd, daeth newyddion da. Roedd y riff yn dangos arwyddion arbennig o adfywiad. Am y tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd, mae’r rhan helaeth o’r riff wedi cael ei orchuddio gyda chwrel.

Mae’n bwysig nodi fod y Barriff Mawr yn fregus o hyd ac mae cryn dipyn o waith monitro yn cael ei wneud, ond mae’r newyddion positif yma yn newyddion i’w groesawu!

Morwellt
Dôl o wymon - wel dyma ddelwedd doniol! Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wrthi’n brysur yn gweithredu ar eu cynllun “Morwellt: Achub Cefnfor”.

Mae morwellt yn adnodd pwysig iawn mewn cefnfor ac mae’n aml yn cael ei ystyried fel “ysgyfaint y môr”, yn debyg iawn i sut mae’r Amazon yn cael ei ystyried yn “ysgyfaint y blaned”. Mae’n cynnig cysgod i rai creaduriaid y môr, yn cynnig bwyd i eraill yn ogystal ag amsugno carbon o’r dŵr a chreu ocsigen.

Nôd y cynllun yw tyfu 10 hectar o forwellt. Mae’n debyg bod un acer o forwellt yn amsugno oddeutu 74 pwys o garbon o’r môr bob blwyddyn. Felly, tybed faint o garbon fyddai 10 hectar yn ei amsugno? Gewch chi wneud y syms!

Ar hyn o bryd, mae cynlluniau ar waith i blannu morwellt mewn pum lleoliad ym Mhenllŷn ac un lleoliad ar Ynys Môn. Mae’n gynllun fydd yn parhau am sawl blwyddyn, ond mae’n werth cadw llygaid allan am ddatblygiadau cyffrous!

Iechyd a Lles | Newid Hinsawdd: Edrych yn Bositif
bottom of page