Hwyl a Hamdden | Peltio’r Byd â Lliw
Sgwrs gyda Swci Delic
Draw yng Nghanolfan Mileniwm Caerdydd, fe welwch fod Swci Delic wedi bod yna yn gadael ei marc gyda’i nod hollbwysig o beltio’r byd â lliw. Wedi iddi syrthio i mewn i fyd o liw a phaent, mae Swci Delic wedi bod wrthi’n brysur yn addurno muriau’r ganolfan, esgidiau a hyd yn oed carafán!
Wrth iddi ddatgelu ei murlun diweddaraf, manteisiodd Lysh Cymru ar y cyfle i’w holi am ei gwaith, ei phrofiadau a’i breuddwydion.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn creu celf?
Wnaeth celf fy newis i. Cyn i mi fod yn artist, roeddwn i’n cael fy adnabod fel y cerddor Swci Boscawen a chyn hynny, yn y nawdegau, roeddwn i mewn band pync! Miwsig oedd fy mywyd i drwyddi draw, nes i mi bron a chael fy lladd gan diwmor yr ymennydd nôl yn 2010.
Ar ôl colli’r gallu cerddorol es i drwy gyfnod tywyll nes i’r gallu o beintio ymddangos o unman ac achub fy meddwl. Mae’r celf wedi fy ngalluogi i ddal ymlaen i fy enaid creadigol, sy’n beth mor bwysig i mi. Yna, yna nghanol y pandemig wnes i frwydro ail diwmor yr ymennydd a hynny wrth gael babi hefyd. Mae’n rhywbeth enfawr dwi angen ategu, pan fyddai’n medru cael fy mhen i rownd yr holl beth.
Beth sy'n dy ysbrydoli di?
Popeth, a dweud y gwir. Oherwydd y man ar fy ymennydd, dwi’n gweld patrymau mewn llefydd annisgwyl a fy ngwaith i fel artist yw creu a dangos pethau prydferth a gwahanol i’r byd. Fi’n gobeithio bod fy nghelf yn dweud “Hei, mae bywyd yn anodd ond edrych, mae hwn yn neis!” gyda’r gobaith o ysbrydoli teimladau positif.
Mae lliw yn amlwg yn chwarae rhan fawr yn dy waith. Pam fod lliw yn bwysig i ti?
Dwi’n caru lliwiau llachar ond doeddwn i ddim yn hapus gyda’r lliwiau oedd ar gael, felly wnes i ddechrau cymysgu paent fy hun. Dwi ishe lliwiau sy’n ymosod ar eich llygaid. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn seicoleg lliwiau a’r effaith mae lliwiau yn medru cael ar bobl.
O, dwi wrth fy modd efo’r syniad ohonot ti’n creu paent dy hun! Mae dy liwiau arbennig bellach yn addurno muriau'r Ganolfan Mileniwm yng Nghaerdydd. Sut brofiad oedd hynny?
Oherwydd fy iechyd, nid oedd modd i mi baentio’r murlun fy hun. Mae o’n 30 medr o hyd! Cafodd fy nyluniad ei brintio ar bapur finyl a’r osod mewn lle. Dwi’n hapus gyda’r darn gorffenedig, er dyw’r lliwiau ddim mor llachar â gallen nhw fod gan nad oedd y printer yn gallu ymdopi gyda fy lliwiau llachar arferol!
Beth ydi dy gamp fwyaf hyd yn hyn?
Dwi wedi paentio esgidiau, murluniau, cynllunio labeli gwin, cloriau recordiau a llawer mwy o bethau. Ond, y gamp fwyaf hyd yn hyn oedd paentio “Cavavan”, sef carafán draddodiadol oedd yn teithio o amgylch gwyliau a digwyddiadau yn gwerthu Cava a lot o ddiodydd gwahanol. Mae hyn yn beth od i ddweud am garafán, ond roedd hi’n frenhines!
Beth yw’r freuddwyd?
Dwi ishe peltio’r byd â lliw.
Pam fod celf yn bwysig i ti?
Celf yw fy mhresgripsiwn. Pan mae rhywun yn cael newid i’r ymennydd, dyw hi ddim yn beth anghyffredin i’r person yna ddechrau paentio. Achubodd celf fy iechyd meddwl i a dwi methu rheoli’r paentio. Mae’r angen i’w wneud yn un cryf ac yn ffordd o ymdopi ac yn therapi i fi.
Beth fyddai dy gyngor di i rywun sy’n dymuno bod yn artist?
Dwi’n ystyried fy hun fel artist damweiniol, gan fy mod i heb astudio celf mewn modd traddodiadol a heb brofiad blaenorol yn y maes, ac mae hynny’n gwneud rhai pobl yn wyllt gacwn gyda fi! Yr holl alla i ddweud yw, os chi eisiau gwneud celf, yna gwnewch gelf. Does dim rheolau. Ac os oes ‘rheolau’ - maen nhw yna i’w torri.
Mae Swci Delic a’i geiriau doeth yn ddigon i ysbrydoli unrhyw un i greu’r darn celf fwyaf lliwgar erioed, ewch amdani!
Cadwch lygad allan ar ei thudalennau cymdeithasol (@swci_delic) am ei gwaith ac anturiaethau diweddaraf yn ei byd o liw. Os fyddwch chi’n ymweld â’r murlun godidog yn y Ganolfan Mileniwm, rhowch wybod i ni!