Hwyl a Hamdden | Croeso i Lanymddyfri
Dyma ni wedi cyrraedd cyfnod Eisteddfod yr Urdd unwaith eto. Daw’r cenedlaethau ifanc ynghyd i ddathlu eu doniau, eu hiaith a chwmni ei gilydd. Wedi misoedd o baratoi gwaith celf, ymarferion canu ac adrodd a thiwnio’r offerynnau, mae’r amser wedi dod i fedi ffrwyth y gwaith caled (a chael digon o freebies).
Eleni, tro Sir Gaerfyrddin yw hi i gynnal yr ŵyl, gyda thref farchnad arbennig Llanymddyfri yn gartref croesawgar. Os fyddwch chi’n aros yn yr ardal, cofiwch fanteisio ar y cyfle i fynd ar antur! Mae digonedd i’w wneud, gan gynnwys beicio mynydd a mynd am dro o dan y ddaear. Dyma lond llaw o argymhellion Lysh ar gyfer beth i wneud wrth ymweld â’r ardal dros yr ŵyl.
Castell Llanymddyfri
Mae hanes Llanymddyfri yn ddiddorol tu hwnt, wedi iddo fod yn gartref i gaer y Rhufeiniaid ac yna’r Normaniaid. Gweler adfeilion y dyddiau cynt mewn sawl man, gan gynnwys Castell Llanymddyfri. Er nad yw wedi goroesi cystal â rhai o gestyll eraill Cymru, mae adfail Castell Llanymddyfri yn rhoi blas pwysig i ni ar sut oedd bywyd yn yr ardal sawl canrif yn ôl.
Ger y castell, welwch furlun dur o Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Efallai nad yw’r enw yma yn gyfarwydd i bawb dros Gymru, ond dwi’n siŵr fod pawb wedi clywed am ei gyfaill, Owain Glyndŵr. Yn y flwyddyn 1401, roedd brenin Lloegr, Hari’r IV, yn erlyn Owain Glyndŵr ac, yn ôl bob sôn, roedd Glyndŵr yn cuddio yn Llanymddyfri.
Wrth chwilio am Glyndŵr, gofynnodd Hari’r IV a’i fyddin am gymorth gan y trigolion lleol, gan gynnwys Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Cytunodd Llywelyn i helpu ond, gyda dau fab ym myddin Glyndŵr, nid oedd gan Llywelyn unrhyw fwriad o helpu brenin Lloegr go iawn. Am wythnosau, bu Llywelyn yn arwain byddin Hari’r IV trwy’r Deheubarth, ymhell o leoliad cywir Glyndŵr. O’r diwedd, sylwodd Hari’r IV fod Llywelyn yn amddiffyn Glyndŵr a’i fyddin a chafodd ei gosbi.
Mae’r trigolion lleol yn mynnu mai ger y cerflun mae’r olygfa orau o’r dref, felly mae’n werth mynd i ymweld â’r castell a’r cerflun!
Cwrs Beicio Mynydd
Os na gawsoch chi ddigon o sbort yn yr Eisteddfod, yna ewch draw i gwrs beicio mynydd Cwm Rhaeadr. Ar y cwrs heriol hwn, cewch fwynhau golygfeydd anhygoel gan gynnwys golygfeydd o’r rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin.
Ddim yn hoff o feicio? Peidiwch â phoeni, dyma gyfle arbennig i fwynhau’r ardal ar ei gorau, gyda llwybr cerdded oddeutu 2 milltir o hyd. Cofiwch ddod â phicnic gyda chi!
Nid dyma’r unig gwrs beicio mynydd yn yr ardal. Mae cyfle hefyd i feicio ar gwrs beicio mynydd Coedwig Crychan, tua 25 munud o Lanymddyfri. Cewch fwynhau'r profiad o wibio ymysg y coed gyda chyrsiau sy’n amrywio o 2.4 milltir i 7.7 milltir.
Gwaith Aur Dolau Cothi
Nid yn unig y golygfeydd uwch ddaear sy’n euraidd yn Sir Gaerfyrddin. Oddeutu 20 munud i ffwrdd o faes yr Eisteddfod mae Gwaith Aur Dolau Cothi. Dyma dystiolaeth o waith y Rhufeiniaid unwaith eto, gyda’r gwaith aur yn dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd! Fe ddaeth y gwaith cloddio i ben yn 1938 ac mae modd i chi fynd i mewn i’r chwarel ac o dan y ddaear, dim ond i chi gofio esgidiau addas a bwcio o flaen llaw.
Sgwâr y Farchnad
Ar ddiwrnod braf, lle gwell i eistedd a mwynhau seibiant na Sgwâr y Farchnad? Wedi ei leoli yng nghalon y dref, yma cewch flas o fywyd y trigolion lleol. O Sgwâr y Farchnad, cewch droedio ymysg y siopau modern a’r hen hanes.
Wyddoch chi, sôn fod gan Lanymddyfri, ar un adeg, fwy o dafarndai ‘na unrhyw fan arall? Ac yn Llanymddyfri mae lleoliad y Gwasg Argraffu cyntaf Cymru, sef Gwasg y Tonn.
Os fyddwch chi’n ymweld ag unrhyw un o’r lleoliadau yma, rhowch wybod i ni a tagiwch ni yn eich lluniau ar y gwefannau cymdeithasol!