Hwyl a Hamdden | Caru Canu - Tips i’r Eisteddfodau
Rydym bellach yng nghanol tymor yr Eisteddfodau Cylch a Sir gyda phobl ifanc ym mhob man yn paratoi eu lleisiau ar gyfer cystadlu ar y llwyfan mawr. Un sydd wedi ymgartrefu ar y llwyfan wedi sawl llwyddiant Eisteddfodol ydi Gwen Elin o Ynys Môn.
Mae profiadau perfformio Gwen wedi gwreiddio yn y gystadleuaeth yma sy’n unigryw i ni yma yng Nghymru, ond roedd ei pherfformiad cyntaf yn un fydd Gwen ddim yn anghofio ar frys!
“Y tro cyntaf rydw i’n cofio cystadlu mewn Eisteddfod oedd yn Eisteddfod Marian-Glas,” meddai. “Roeddwn yn canu ‘Tu ôl i’r Dorth’ a Taid oedd llywydd yr Eisteddfod. Fe wnes i anghofio’r geiriau a chanu ‘la la la’ trwy’r ail bennill! Ond mi wnes i fwynhau!”
Er bod buddugoliaeth yn wych, boed hynny’n llwyddiant yn y prelims, ennill y gystadleuaeth ar lwyfan y Genedlaethol a phob dim yn y canol, weithiau mae derbyn siom yn anodd iawn. Mae teimlo’n drist, yn flin neu wedi hen syrffedu yn hollol ddilys wedi eich gwaith caled o baratoi. Ar y pwynt yma byddwch chi’n siŵr o glywed unigolyn yn gweiddi’r clasur Eisteddfodol; “Mae fy mhlentyn i wedi cael cam!”
Er hynny, cofiwch fod sawl un yn yr un cwch. Mae Gwen hefyd wedi bod ar y cwch yna hefyd!
“Fedrai ddim cofio amser i mi gael cam. Ambell i siom haeddiannol mae’n debyg ond ei droi ar ei ben a'i ddefnyddio fel lle i wella ar gyfer y tro nesaf,” esboniai Gwen. “Mae colli yn bwysicach nag ennill!”
Mae’n bwysig cofio nad profiadau perfformio yn unig sy’n dod wrth gystadlu yn yr Eisteddfod. Wrth berfformio rydym yn dysgu nifer o bethau; sut i weithio gydag eraill fel tîm, sut i golli a gwella yn ogystal â chael llond trol o hwyl a chreu atgofion gwerthfawr. Eglurodd Gwen pam ei bod hi’n meddwl bod yr Eisteddfod yn bwysig, hyd yn oed os nad ydi rhywun yn dymuno perfformio yn broffesiynol:
“O ran hunanhyder, rydw i’n teimlo bod yr elfen o gymryd rhan mewn Eisteddfod yn hynod o bwysig, hefyd i ddysgu bod colli yn iawn ac i geisio eich gorau mewn bywyd yn gyffredinol. Rydw i wedi creu nifer o ffrindiau drwy ddilyn Eisteddfodau trwy gydol fy mywyd, felly mae ‘nag elfennau andros o bwysig i’r Eisteddfod yn fy marn i, hyd yn oed os nad ydi rhywun yn dymuno dilyn gyrfa mewn perfformio.”
Yn wir, mae cystadlu wedi arwain at lu o gyfleoedd i Gwen. Wrth inni agosáu ar gystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, mae Gwen yn gyfarwydd iawn gyda’r llwyfan honno!
“Hyd yn hyn, y gystadleuaeth fwyaf bythgofiadwy i mi ydi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2015,” soniodd Gwen. “Fe wnaeth hyn agor nifer o ddrysau i mi!”
Mae’n deg i ddweud fod Gwen yn un o’r rhai mwyaf profiadol i rannu gair o gyngor am berfformio ar lwyfannau’r Eisteddfod, felly holodd Lysh am dri tip syml pan fydd darllenwyr Lysh yn serennu ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad. Dyma nhw:
- Cofiwch ddiolch i’r gynulleidfa wedi i chi orffen eich perfformiad.
- Gwnewch eich gorau - allwch chi ddim gwneud mwy ‘na hynny!
- Yn bwysicach oll, mwynhewch!