Cymuned | Coronafeirws: Be wnawn ni heb bêl-droed?!
gan Begw Elain
Helo ‘na!
Pwy sydd wedi cael llond bol ar glywed y gair ‘coronafeirws’ bellach? Dan ni gyd wedi, fwy nag thebyg. Mae popeth yn fy mywyd i wedi cael ei ganslo’n gyfan gwbl- sioe flynyddol drama, arholiad piano, Clwb Ffermwyr Ifanc, gigs - yn bwysicach fyth, pêl-droed! Dwi ar goll yn llwyr heb fy mhêl-droed. A gyda’r newyddion drwg fod Ewros yn symud at flwyddyn nesaf, mae hi’n mynd yn waeth.
Dwi’n ddisgybl ym mlwyddyn 10 ac mae hi yn gyfnod mor anodd i weithio yn yr ysgol. Mae athrawon wedi bod yn arbennig o dda yn rhoi gwaith i ni ar gyfer y cyfnod nesaf wrth i ni weithio o adref. Beth sydd am ddigwydd gyda’r arholiadau ydy'r cwestiwn mawr? Mis Fehefin eleni roedd gen i bedwar arholiad, i fod, a fyddai wedi cyfri, ond rŵan does gen i ddim syniad be fydd y camau nesaf. Os bydd angen sefyll yr arholiadau yma’r flwyddyn nesaf, mae’n mynd i fod yn bwysau ychwanegol wedyn ac yn sicr fydd hynny’n effeithio ar ein hiechyd meddwl ni. Mae’n ddyddiau cynnar gyda gweithio o adref - ond y poen meddwl mwyaf ydy be sy’n digwydd nesaf.
Mae pêl-droed yn rhan fawr ohona i, ac yn sicr dros yr wythnosau nesaf fydda i ddim fy hun. Mae diwedd y tymor rownd y gornel a dwi ddim yn meddwl y bydda i’n gweld fy nhîm pêl-droed lleol, Nantlle Vale, yn chwarae tan ddechrau’r tymor newydd, gyda’r firws yn gwaethygu yn ddyddiol. Dwi wir eisiau gweld y tîm yn chwarae ar y cae yn fuan ond wrth gwrs mae iechyd yn dod gynta. Talent ydy chwarae pêl-droed felly mae hi yn bwysig ymarfer a does neb yn siŵr os fydd yna sesiynau ymarfer yn digwydd ac mae ychydig wythnosau heb chwarae pêl-droed yn gwaethygu ffitrwydd chwaraewyr. Mae hi’n dor-galonus i fyw heb bêl-droed!
Does gen i ddim syniad beth ddigwyddith dros yr wythnosau nesaf, mae hi’n gyfnod mor anodd. Dwi wir yn gobeithio bydd pawb yn iawn yn ystod yr amser yma yn ein bywydau. Storm fawr ydy hi a gobeithio y gwnawn ni gyd ddod allan o’r storm yn fuan, ac yn iach!
Edrychwch ar ôl eich gilydd.
Gyda’n gilydd yn gryfach!
Begw Elain x