Adloniant | Sbardun: Cyffro Electroneg
Mae’n ffaith fod cyd-weithio yn creu ystod eang o waith arbennig. Drwy rannu syniadau mae pethau anhygoel yn digwydd ac mae traciau cerddoriaeth fwyaf adnabyddus y byd yn ganlyniad i gyd-weithio.
Dwy sydd wedi cyfrannu i wefan Lysh yn y gorffennol ydy Melda Lois a Mali Haf ac mae’r ddwy yma wedi bod yn gweithio gyda 13 o artistiaid eraill, gan gynnwys Eadyth ac Endaf, er mwyn creu EP electroneg newydd o’r enw Sbardun.
O dan y label High Grade Grooves, mae’r criw talentog o artistiaid wedi llwyddo i gyfuno eu doniau ac mae’r EP bellach wedi cael ei fwynhau ar hyd a lled y wlad ers iddo gael ei ryddhau ar Ddydd Miwsig Cymru 2023. Esboniodd Endaf o’r label ychydig mwy am y prosiect:
“Ychydig llai ‘na blwyddyn yn ôl, gwnaethom ni alwad agored ar gyfer artistiaid oedd eisiau gwneud cais ar gyfer sesiynau stiwdio gyda’n tîm o gynhyrchwyr o’r Gogledd i’r De, cyfle i greu trac gyda’n gilydd.”
Yn wir, llwyddodd y label i wireddu ei fwriad, gan uno dau gynhyrchydd cerddoriaeth ac un prif leisydd i gyfansoddi a chynhyrchu cân electroneg.
Prosiect ledled Cymru ydy Sbardun, sy’n plethu artistiaid eang o ran eu sain gyda'i gilydd er mwyn cynnig profiadau newydd, gan gynnwys recordio mewn stiwdio broffesiynol am y tro cyntaf. Fuodd Hedydd Ioan, o’r band skylrk., yn Music Box Studios yng Nghaerdydd yn recordio eu colab nhw gyda Shamoniks a Sachasom.
“Yr unig brofiad blaenorol roeddwn i wedi’i gael o recordio oedd mewn stiwdios cartref, felly roedd cael y cyfle i deithio i lawr i Gaerdydd i recordio yn arbennig iawn,” meddai Hedydd. “Fel artist newydd, mae profiadau fel hyn yn rhai mor arbennig ac yn dangos be sy’n bosib drwy weithio yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg.”
Yn ôl i fyny yn y Gogledd, roedd Melda Lois yn gweithio’n agos gydag Endaf a Tom Macauley yn Stiwdio Sain.
“Cyn prosiect Sbardun, doeddwn i erioed wedi cyfarfod Endaf na Tom o'r blaen, felly mi oedd cyfarfod am y tro cyntaf yn Stiwdio Sain, yn gwybod mai dim ond dau ddiwrnod oedd gennym ni i sgwennu, cyfansoddi a recordio cân, yn brofiad reit nerve-wracking, ond cyffrous! Mi gymrodd hi ychydig o amser i ni ddallt ffyrdd ein gilydd o weithio, ond mi wnaeth y syniadau ddechrau llifo erbyn diwedd y diwrnod cyntaf,” esboniai. “Fe rannon ni'r MP3s ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, ac roedd gweld a chymharu datblygiad y gân o ddiwrnod i ddiwrnod, ac wedyn y fersiwn derfynol ar ôl i Endaf orffen ei chynhyrchu hi cwpwl o fisoedd wedyn, yn grêt!”
Wrth wrando ar ‘Pelydrau’, mae’n deg i ddweud fod y ffync electroneg yn dra gwahanol i gerddoriaeth nodweddiadol Lois.
“Mae ‘Pelydrau’ yn swnio’n reit wahanol i unrhyw beth arall dwi wedi ei wneud, ond dwi mor hapus hefo'r canlyniad! Ac erbyn hyn, dwi'n meddwl mai fy fersiwn acwstig i o'r gân ydy'n hoff gân i berfformio'n fyw. Dwi'n falch iawn fy mod i wedi gallu cyfrannu at yr EP, sy'n rhoi platfform i gynhyrchwyr ac artistiaid Cymraeg, ac i'r sîn gerddoriaeth electroneg yma yng Nghymru.”
Cewch chi gyfle fwynhau’r EP newydd ar eich platfformau cerddoriaeth arferol. Ond, yn y cyfamser, pa artistiaid fasech chi’n hoffi eu clywed yn cyd-weithio?