top of page

Adloniant | Gair gan y Golygydd

Adloniant | Gair gan y Golygydd

Mae'n deg i ddweud fod amser yn hedfan ac i'w weld yn hedfan yn gynt ac yn gynt gyda bob blwyddyn. Gyda bron 4 mlynedd ers lansiad Lysh a bron i 5 mis er i mi fod yn Olygydd, credaf ei bod hi'n hen bryd i ddweud helô ac i gyflwyno fy hun yn iawn.

Llio Angharad ydw i, Golygydd Lysh. Dwi'n ysgrifennwr, dyluniwr a gwneuthurwr ac yn barod i neidio ar unrhyw gyfle creadigol. Er mwyn dod i fy adnabod yn well, dyma ffeithiau difyr amdana i:

1) Dwi'n rhan o grŵp gwau a chrosio, a llynedd fe lwyddon ni i greu dros 5,000 pabi ar gyfer arddangosiad.
2) Dwi'n ffynnu wrth i mi wynebu her greadigol, gan gynnwys DIY.
3) Dwi wedi rhedeg o gwmpas cwrs rasio ceffylau Caer wedi gwisgo fyny fel jester, a hynny ar ddiwrnod rasio prysur!
4) Roedd fy nghyfraniad cyntaf i Lysh nôl ym mis Mehefin 2019!
5) Dwi wedi modelu penwisg gan ddyluniwr arbennig, penwisg gafodd ei fodelu gan Lady Gaga ychydig o wythnosau gynt.
6) Mae gen i gath sydd wedi ei henwi ar ôl bardd o'r 6ed ganrif - allwch chi ddyfalu ei enw o?
7) Wnes i gyfarfod Jean Paul Gautier yn Llundain sbel yn ôl.
8) Ffasiwn ydi fy metha i! Mae gen i dŷ dylunio cynaliadwy a dwi wrth fy modd yn gwnïo a chrosio.

Fel dwi wedi sôn yn barod, mae bron 4 mlynedd wedi bod ers lansiad Lysh draw yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn 2019 (fydd mwy o sôn am hyn dros yr wythnosau nesaf!). Yn ddigwyddiad llawn lliw a bwrlwm, cerddoriaeth a chariad, mae Lysh yn parhau i fod yn dilyn yr un drefn!

Rŵan, dyma’r lle perffaith, dwi’n meddwl, i dalu teyrnged i waith arbennig ein cyn-olygydd a sylfaenydd holl bwysig Lysh, sef Llinos Dafydd.

Sefydlwyd Lysh er mwyn sicrhau llwyfan a llais i ferched ifanc Cymru, gan ddathlu ein hunain yn union fel ydan ni heb feirniadaeth, ac yn onest. Mae Llinos, heb os nac oni bai, wedi llwyddo ar ei nod ac mae parhau ar ei gweledigaeth yn gyfrifoldeb helaeth!

Roedd gweithio gyda Llinos yn fraint. Mae ei brwdfrydedd a'i chryfder i'w edmygu ac yn heintus tu hwnt. Mae Llinos yn parhau i fod yn aelod o deulu mawr Lysh - mae hi'n aelod rhy werthfawr i'w cholli!

Be dwi ‘di ddysgu
Wrth gyfrannu i Lysh dros y blynyddoedd ac wrth gamu i’r awenau fel golygydd, mae sawl gwers wedi ei dysgu ar hyd y ffordd. Mae’r un peth yn wir am bopeth mewn bywyd wrth gwrs; gyda bob profiad daw gwers!

Mae fy amynedd wedi cael ei brofi’n drylwyr wrth weithio ar gymaint o wefannau cyfryngau cymdeithasol. Profiad rhwystredig iawn ydi brwydro gydag ap sy’n mynnu ei fo o angen ypdet, cyn penderfynu fod y rhwydwaith i lawr ledled y byd!

Yn bennaf, mae cyfrannu tuag at wefan Lysh yn brofiad arbennig. Wrth gyhoeddi erthyglau sy’n trafod pynciau dwys a phwysig, dwi’n cael fy atgoffa o bwysigrwydd llwyfan Lysh. Wrth dderbyn erthygl sy’n cyffwrdd y galon ac sy’n fy ngadael i’n fy nagrau o flaen y gliniadur, dwi’n cael fy ysbrydoli i fod yn fwy dewr ac agored. Wrth gyfweld ag unigolion i drafod eu stori a’u hanes, dwi wedi cael gymaint o hwyl ac wedi chwerthin nes bod fy mol i’n brifo. Mae’n saff dweud mod i’n mwynhau.

Eich Stori Chi
Nodwedd bwysicaf a sylfaenol Lysh ydi ei bod yn cynnig llwyfan i ferched ifanc Cymru i allu rhannu barn a dweud eu stori heb feirniadaeth. Dyma yw craidd Lysh.

Mae Lysh yn agored i chi allu dweud eich dweud. Oes gennych chi stori fer neu erthygl ffeithiol? Boed i chi fod yn fwy cyffyrddus o flaen eich camera neu’n ysgrifennu, byddwn i wrth ein boddau yn derbyn eich gwaith. Defnyddiwch y dudalen gysylltu er mwyn danfon neges, neu cysylltwch trwy’r cyfryngau cymdeithasol!

Adloniant | Gair gan y Golygydd
bottom of page