top of page

Antur Adra

Ydych chi’n barod am antur?

Wrth sgrolio lawr ein llif Instagram, gwelwn ddylanwadwyr yn teithio ac yn anturio ar draws y byd i gyd, sy’n ein gadael ni’n ysu am yr un fath o brofiadau. Wel, yr un fath o luniau i’w rhannu o leiaf! Wyddoch chi, does dim rhaid i ni deithio’n bell er mwyn cyrraedd yr un safon o luniau dylanwadwyr sy’n haeddiannol o le ar ein grid. Yma yn ein gwlad fechan ni mae digon i’w fwynhau ac mae yna wastad lefydd newydd i’w ymweld â nhw.

Mae Lysh wedi rhoi rhestr o awgrymiadau at ei gilydd o leoliadau i deithio i er mwyn cael y lluniau gorau i rannu gyda’ch ffrindiau a dilynwyr. Er bod y lleoliadau yma’n brolio cyfleoedd di-ri am luniau da, mae’n bwysig i chi gofio mwynhau’r antur, gwerthfawrogi hanes y safleoedd ac, yn fwy na dim, creu atgofion sy’n para oes!

 

lukas-blaskevicius-JxrIfsqXf54-unsplash.jpg

Ynys Llanddwyn
Wedi ei lleoli i’r de-orllewin o Ynys Môn, gallwch gerdded yno ar hyd lan môr maith a phrydferth ac, ar y ffordd yn ôl o Ynys Llanddwyn, fe gewch yr olygfa orau o fynyddoedd Eryri. Am y lluniau gorau i ddogfennu eich siwrnai, ewch yno ar ddiwrnod braf a chewch luniau gwell wrth i’r haul fachlud. Ond, cofiwch edrych ar amseroedd y llanw cyn i chi fentro, rhag ofn i chi gael eich dal yn sownd ar Ynys Llanddwyn!

Portmeirion
Dyma leoliad dylai fod ar unrhyw restr anturiwr yng Nghymru! Mae pob twll a chornel pentref Portmeirion yn gyfle am lun. Adeiladwyd y pentref ymwelwyr rhwng 1925 a 1975 ac mae’r adeiladau yn cael gofal arbennig gan weithwyr y safle. Yn ogystal â thynnu lluniau gyda’r adeiladau yn gefndir, cofiwch droi rownd a chael lluniau gyda thirwedd naturiol Cymru yn y cefndir!

Castell Conwy
Wrth gwrs, mae dewis helaeth o gestyll yng Nghymru, felly beth sy’n gwneud Castell Conwy yn arbennig? Gyda digon i’w ddarganfod, mae tref farchnad Conwy wedi ei hamgylchynu gan waliau’r castell. Mae posib cerdded ar hyd y waliau yma, sy’n cynnig golygfeydd hyfryd o’r afon gerllaw. Yn ogystal â’r castell, i lawr y lôn mae’r tÅ· lleiaf ym Mhrydain sy’n sefyll allan gyda’i liw coch godidog. Dyma gyfle da am lun, yn enwedig os fydd eich gwisg yn cyd-fynd a’r tÅ·!

 

Dinbych-y-Pysgod
Mae’r dref yma yn hynod o brysur gydag ymwelwyr am gyfnodau yn y gwyliau, ond mae’r tai lliwgar a’r strydoedd pert yn ei gwneud yn rhy hyfryd i’w methu! Ewch am dro rhwng y strydoedd cul a mwynhewch yr hyn sydd gan gwmnïau annibynnol yr dref i’w gynnig.

Mynydd Parys
Dyma leoliad arall ar Ynys Môn, y tro hwn yn y gogledd ger tref porthladd Amlwch. Chwarel gopr oedd Mynydd Parys, sy’n adnabyddus iawn am ei dirwedd arallfydol. Wrth droedio’r llwybr, sy’n mynd a chi ar daith ar hyd canrifoedd cyfoethog yr ardal, mae’r tirwedd oren yn ddigon i ddenu diddordeb unrhyw un. Anodd iawn yw credu bod y fath le yn bodoli ymysg y caeau gwyrdd!

 

beata-mitrega-nsiPzi9FVh4-unsplash.jpg
aneta-pawlik-0q_iZNtwO40-unsplash.jpg

Abaty Ystrad Fflur
Ystyrir Ystrad Fflur yn geidwad diwylliant Cymru ond dim ond adfeilion sy’n bodoli yno heddiw. Boed hynny, mae’r safle yn werth ei weld er mwyn gwerthfawrogi’r hanes a’r awyrgylch. Wedi ei leoli yng ngogledd Ceredigion, cewch fwynhau’r ardal am dâl bach yn yr haf ond yn y gaeaf cewch fynediad am ddim.

Porthdinllaen
Y dyddiau yma, mae Porthdinllaen ym Mhen LlÅ·n yn fwyaf adnabyddus am dafarn TÅ· Coch. Ar ddiwrnod braf (a hefyd ar ddiwrnodau llwm) mae cefndir coch y dafarn yn berffaith ar gyfer unrhyw hunlun a chewch gyfle euraidd i badl fyrddio mewn bae cysgodol. Mae’r ffaith fod y traeth yn un cysgodol yn golygu fod sawl un o fyd natur yn dewis treulio ychydig o oriau yma hefyd. Tybed welwch chi forlo neu ddau?

Penrhyn Gŵyr
O un penrhyn i benrhyn arall, mae Penrhyn Gŵyr wedi ei leoli yn ne Cymru, ddim yn bell o Abertawe. Mewn gwirionedd, does dim rhaid i chi ddibynnu ar dywydd braf i fwynhau’r lleoliad yma. Mae’r arfordir creigiog yn llawn bywyd a natur drawiadol drwy gydol y flwyddyn, glaw neu hindda!

 

Fyddwch chi’n ymweld â’r safleoedd yma dros yr haf, neu’n mynd ar antur i leoliad gwahanol? Rhowch wybod i ni a chofiwch ein tagio ni mewn lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol!
 

bottom of page