top of page
Adolygiad llyfr
Oedolyn ish: Melanie Owen
Helo, gobeithio ‘da chi gyd yn cadw’n iawn?
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn darllen y llyfr ffres ‘Oedolyn ish’ gan yr awdures Melanie Owen. Dyma lyfr mae llenyddiaeth Cymru wedi bod angen ers blynyddoedd! Llyfr i godi ymwybyddiaeth am brofiadau o dyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru, cyfle i ddysgu a dathlu ein hunaniaeth.
Mae’r llyfr yma yn cynnwys sawl thema unigryw. Fe gawn sawl mewnwelediad clir i fywyd oedolion ifanc gan Mel sy’n gwneud i ni deimlo’n gyfforddus yn sydyn gyda’i disgrifiadau cynnes a’r ffordd mae’n estyn croeso i ni ar ei thaith drwy’r blynyddoedd.
Un elfen arbennig wnes i fwynhau am y llyfr yma yw’r teitlau anhygoel a’u harwyddocâd a ddaw o straeon a phrofiadau Mel. Mae yno bwysigrwydd i bob teitl a’u stori felly ni chewch eich diflasu. Er enghraifft, yn y bennod gyntaf fe gawn deitl ‘Bydd yr un mor garedig i dy hunan at bawb arall’ - neges hynod o bwysig i'w rhannu. Rhwng hynt a helyntion bywyd prysur rydym yn cael ein hatgoffa gan Mel o’r hyn sy’n iach. Teimlaf fy mod gallu uniaethu llawer gyda straeon Mel gyda chodi ymwybyddiaeth gwerthoedd y gymdeithas yn enwedig yn sôn am ei phwt ‘gwerthoedd dynion’. Mae angerdd yr awdures yn cael ei deimlo yn enwedig yn ei dyfyniadau pwerus fel ‘Nid os ydw’i digon da, ond os ydyn nhw digon da i fi?’.
Agwedd arall cryf yn y llyfr yw positifiaeth Mel, yr hyn sy’n gwneud i’r darllenwyr deimlo’n positif a’r dyfyniadau pwerus i ysbrydoli pawb. Mae gwers i'w ddysgu o bob camgymeriad ac mae hynny’n ocê, fel mae Mel yn atgyfnerthu. Mae’n dod a’u straeon gyrfaol i mewn, er enghraifft; 'nid ti yw’r prif gymeriad bob tro ac mae'n 'na rhywbeth positif ym mhob digwyddiad negyddol, hyd yn oed os datblygiad a thwf ydy o’. Mae'r cyngor gwych i bobol ifanc i fynd 'mlaen yn eu byd gyrfaol.
Siaradai Mel am fyw yn annibynnol a rhoi hunan hyder i ti dy hun. Er enghraifft; ‘Paid ag aros i rywun dy ddewis di, dewisa dy hun’. Mae hyd yn oed geirfa gyfoes fel ‘attachment anxiety’ ac ‘icks’ yn cael eu trafod a llawer iawn mwy. Yn ogystal hynt a helyntion o geisio darganfod cariad ar-lein gyda phrofiadau o newid gwallt o blethiadau o bryder yn dysgu gwers i ni gyd. Eto, mae’r dyfyniadau mae Mêl yn ein hatgoffa ni mor bwysig o ein hunan gariad, ‘Pam, pam oedd fy ngwerth a fy hapusrwydd yn dibynnu arno fe fy newis i'. Does dim rhaid i ni fod mewn perthynas nac gael rhywun i wneud ni deimlo arbennig, pan allan ni blaenoriaethu a hapusrwydd ein hunain!
Mae'r llyfr mor gyfoes sy'n teimlo fel sgwrs rhwng ffrindiau. Er enghraifft ‘peidiwch â phrynu masgara drud’, hetiau bwced a’r pwysau i fod yn brysur drwy’r amser. Mae’r sgyrsiau fel ‘prifysgolion elît’ ac ‘icks’. Mae’r holl lyfr fel sgyrsiau cyffredin rhwng grŵp o ffrindiau.
Cerwch amdani i'w darllen, wnewch chi ddim difaru! Diolch fawr iawn Mel am fod mor onest â dy gyfeillgarwch. Fel dywedodd Mel, cofiwch fod yr un garedig i chi eich hunain tuag at bawb arall’.
Diolch,
Begw Elain
bottom of page